Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL Rhiftn 36. RHAGFYR, 1902. Cyp. III. SWYDDOGION BYDDIN IESÜ. XII.—WARDAN. ETH yw y gwahaniaeth rhwng gwisg y Diacon a gwisg yr OfFeiriad yn yr Eglwys 1 Er ys pa faint o amser y mae y tair Gradd wedi bod yn yr Eglwysl Pa ranau o'r Gwasanaeth fedr Diacon eu gweinyddu ? Mae pob un o blant y Perl yn gwybod pwy yw y Wardan. Dyna fel y dylid ysgrifenu ei enw medd y Canon Silvan Evans; ac efe wyr oreu. Dr. Silvan Evans, Canon yn Eglwys Gadeiriol Bangor, a Rector Llanwrin, yw yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf yn y byd. Dyna beth i blant yr Eglwys fod yn falch o hono. Ond beth yw ystyr yr enw Wardan? Ceidwad, un yn cadw, ac yn gofalu. Wardan yr Eglwys, felly, yw y dyn sydd a gofal yr Eglwys arno, ei dodrefn a'i heiddo. Ac y mae y swydd hon yn hen iawn, yn hynach na'r un swydd arall yn y wlad ond tair swydd y weinidogaeth. Pwy sydd i benodi y Wardeiniaid ? Fel rheol dau Wardan fydd yn mhob plwyf, ond ceir tri a phedwar mewn ambell 12—iii.