Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhifyn 55. GORPHENAF, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. V.— YR EGLWYS. REDAF yn yr Eglwys Lân Gatholig.' ' Credaf fod un Gatholig ac Apostolig Eglwys ' Nid siop ydyw yr Eglwys, ond ysbytty, clafdy (hospital). Pan awn i'r shop cawn ddewis beth a gymerwn a pha beth a wrthodwn, pigo a dewis. Ond pan awn i'r hospital rhaid i ni gymeryd y peth a rydd y meddyg neu y nurse i ni ; nid oes yno ddim dewis i fod. Ysbytty (hospital) ydyw yr Eglwys ; ìle i wella eneidiau claf neu wedi eu clwyfo gan bechod. ' Ni ddaethum i alw rhaicyfiawn, ond pechadnriaid i edifeirwch. Ni raid i'r rhai iach wrth feddyg ond y rhai cleifion,' medd Iesu Grist Eto tybia llawer mai shop ydyw yr Eglwys, ac y gallant dderbyn a gwrthod, pigo a dewis, pethau ynddi fel y mynant. ' Mi gredaf yn Nuw Dad,' medd un dyn, ' ond ni chredaf fod Iesu Grist yn Dduw.' ' Credaf fod Iesu Grist wedi marw,' medd un arall, ' ond ni chredaf ei fod ef wedi adgyfodi.' ' R'wyn credu yn yr Yspryd Glân,' ebe'r trydydd, ' ond nid wyf am gredu fod un Eglwys Lân Gatholig.' Tybiant y gallant bigo a dewis fel yna. Eithr hospital ydyw yr Eglwys, a rhaid derbyn a chredu pob peth a ddywed Iesu Grist, y Meddyg Mawr, wrthym. 7—v.