Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhifyn 57. MEDT, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. VII.— Y SACRAMENTAü. N diwrnod yr oedd Iesu Grist yn nghanol tyrfa fawr o bobl, a phawbyn gwasgu er bod yn agos ato Ef hyd nes prin y gallai Efe symud. O'r tu ol i'r dyrfa daeth gwraig wael ei hiechyd, gan wthio rhwng y bobl y naill ar ol y llall tuag ato. O'r diwedd daeth yn ddigon agos i allu estyn ei braich rhwngy rhai agosaf, a chyraedd yniyl gwisg yr Iesu â'i bysedd. Á chan gynted ag y teimlodd â'i llaw ei wisg Ef, yn y fan, gwellha- odd ei hafiechyd. Troes Iesu Grist ei wyneb a gofyuodd, ' Pwy a gyíîyrdd- odd â'm dillad V Atebodd Ei ddisgyblion, ' Ti a weli fod y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi Di, Pwy â'm cyffyrddodd "? (St. Marc v. 24—34). Yr oedi haner dwsin yn cyffwrdd â'i ddillad Ef ; eto y wraig yn unig a gafodd wellhad. Yn awr, dyma ddarlun o'r Sacramentau Sanctaidd roddodd Iesu Grist i'w Eglwys i'w gweinyddn. 1. Yr oedd rhyw nerth yn Iesu Grist, ' rhinwedd ' yw yr enw roddi arno yn yr hanes—rhywr nerth i wella pob clefyd. Y parlys, y gwahanglwyf, y dropsi, gwendid, dallineb, twymyn,—yr oedd holl gorff Iesu Grist yn llawn o'r rhin- wedd neu'r nertlr rhyfedd hwn a iachäi bob un o honynt. 2. Ni ddarfu i'r nerth rhyfedd hwnw wella pawb. O'r 9—v.