Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhifyn 64. Y PERL EBRILL, 1905. Cyf. VI PA'M 'RWY'N MYN'D I'R EGLWYS. II. BETH WY'N EI GAEL YNOÎ N gyntaf. 'Rwy'n cael lle yno. Mae yr Eg lwys fel raam yu cadw cartref i mi. Ni raid gofyn cenad gan neb i fyned i df fy mam : mae genyf gystai hawl a neb yno. Ni waeth pa un a allaf dalu am sêt neu beidio, caf le yn yr Eglwys. 'Rwy'n myn'd i'r Eglwys am fod yno le ì mi. 2. 'Rwymn cael croesaw yno. Waeth pa un ai tiawd ai cyfoethog ydwyf, caf groesaw yu nhŷ fy marn. Caf yr un peth a phawb arall—caf fy medyddio yr un fath ; caf Fedydd Esgob yr uu fath a mab y brenin ei hunan, gyda'r un geiriau. 'Rwy'n myn'd i'r Eglwys felly am fy mod yn cael croesaw yno. 3. 'Rwyn cael parch yno. Yn y plwyf mae rhai yn gy foethug a rhai yn dylawd ; rhai yn uchel a rhai yn isel. Oddí fewn i'r Eglwys gall fod un sêt yn well na sêt arall. Eithr y mae un lle yn y plwyf, a dim ond un, lle y ceir pawb yn wastad. Mae un man lle y bydd pawb fel eu gilydd. Pa le ydyw hwnw? Wrth Fwrdd yr Argìwydd. Bydd un mewn dillad sidan a pherlau, a'r lla.ll mewn gown cotwm, a'r ddwy ar eu 4— tì.