Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhifyn 65. MAI, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWY'N MYN'D I'R EGLWYS. III. I BA LE ARALL YR AF? N gyntaf. Sonia y Beibl am Eglwys. Dy- wedodd Iesu Grist ei fod yn adeiladu Ei Eglwys. Mae Epistolau St. Paul yn llawn o son am ' Yr Eglwys.' Hi ydyw 'Corff Crist.' Hi yw c Ei Briodasferch Ef.' Dywed Llyfr yr Actau fod y rhai a fyddent cadwedig yii cael eu hychwanegu at ' Yr Eglwys.' 2. Mae arnaf finaii, felly, eisieu bod yn 'YrEglwys.' Yr wyf am gael perthyn i ' GorfF Crist,' am fod yn Ei gorlan Ef. 'Rwy'n gobeithio eael bod yn gadw- edig; ac yr wyf ani geisio addoli Duw a ehael gras ganddo i fyw duwiol, uuiawn, a sobr fuehedd. 3. Pa le y caf o hyd i'r Eglwysl Dyma yn ein pentref ni bedwar enwad, neu bedair sect—y Methodistiaid, yr An- nibynwyr, y Wesleyaid, a'r Bedyddwyr, a chapel gau bob un. A phob un yn dweyd mai eu sect hwj' sydd yn iawn. Yn y dref mae sectau ereill, Plymouth Brethren, (,>uakers, Pab- yddiou, Salvation Army, a liri ereill—pob un yn dweyd mai hwy sydd yn iawn, ac mai i'w capel hwy y dylai pawb fyned. 5—vi.