Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhipyn 70. HYDREF, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWY'N MYN'D TR EGLWYS. 6 'T>WRYCHWCH ar y llun yma.' I 7 Dyna ateb Mrs. Charles. Drwy y boreu bu yr hen ŵr, Mr. Charles, yn dadleu gyda dyn dieithr yn y parlwr; ond wedi cadw llestri ciniaw aeth Mrs. Charles atynt. ' Pa'm 'rydych chwi yn myn'd i'r Eglwys, Mrs. Charles %' meddai }' gŵr dieithr ; a chafodd wybod. ' Pa'm 'rwy'n myn'd i'r Eglwys? 'Drychwch ar y liun yma. I b'le yr eith neb sydd yn ei senses, os bydd yn dâllt petha' yn iawn, fel y dengys y llun yma, ond i'r Eglwys. Welwch chwi, dyma yr Hen Eglwys—The National Church —wedi d'od i lawr am 1500 o flynyddoedd heb erioed son am y sectia' yma. Dyma hi, fel pren mwstard, wedi ei blanu yn 'n gwlad ni mor fora' a'r flwyddyn 150, ac yn para yr un o hyd. Yn eno rheswm anwyl, pwy byth aetha' at un o'r sectia' bach yna, a gadael yr hen Eglwys ì' ' Da iawn ! Da iawn ! Gwen,' meddai Mr. Charles. ' 'Drychwch chwi eto, dyna'r Pabyddion a'r Sentai-s wedi 'i gadael hi yn gynta'; a'r Batus wed'yn. Dyda chwi y Methodistiaid ddim yma. 'Dwyr neb am danoch chwi y tu allan i Gymru. Yn wir, yn y Gogledd yma yr ydach chwi dipyn bach yn gryfion. Welwch chwi yn y fan yma, dipyn baoh o'r tu ucba' i'r Wesleyans y dylech chwi fod. Yn 1811 yr aethoch chwi yn sect: cymdeithas yn yr Eglwys oeddech chwi cyn hyny.' 10—vi.