Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhipyn 71. TACHWEDD, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWY'N MYN'D I'R EGLWYS. "'RWY: AM FOD YN SEION." Y7NA ateb hen gloehydd Trawsfynydd,— ' 'Rwy' am fod yn Seion, lle y dewisodd yr Arglwydd i roddi Ei Enw yno.' Yn yr Hen Destament, Jerusalem oedd y lle i addoli. Elai pawb yno am mai yno y gosodai Duw Ei Enw. Drwy i bawb fyned i'r un fan i addolí eedwid y bobl yn un, carent bawb eu gilydd, a cheid addoliad gogoneddus. Troer irr Salmau a gwelir fel y chi-hì y Salmydd Seioi). ' Llawen- ychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. Ein traed a safant o fewn dy byrth di, 0 Jerusalem. Mor hawddgar yw dy bebyll di, 0 Arglwydd y lluoedd! Fy enaid a hiraetha ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd. Wrth afouydd Babilon yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.' Ond erbyn hyn, mae yr hen bethau wedi myned heibio. Ydynt, ond nid y gwirionedd oedd o dan yr hen bethau. A oes Seion yn awr ? Oes, yn ddiau. Mae Duw wedi gosod Ei Enw mewn lleoedd arbenig. I ba beth ? I'r un dyben- ion ag yn yr hen amser. Mae Duw am i'w bobl garu eu gilydd ; ac er mwyn caru eu gilydd, rhaid iddynt fyned i'r 11— vi.