Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CENHADWR ÁMERICAMIDD. Cyf. 15, Riiif. 3. MAWRTH, 1854. RniF. oll 171 Crcfgbbol. SYLWADAU AR NATDR EGLWYS. A draddodwyd ar yr achlysur o ordeiniad y Parch. G. GrijfitJis, A". F., gan 11. E. Aet. 2: 42, 47 Ac yr osddynt yu pnrhau yn athrawiaeth nc yn nghym- deithns yr npostoüon, ac yu tori bura, ac mewn gweddiau.—A'r Arglwydd u chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai lyddent gadwedig; Mae y bennod hon yn cynwys hanes gweith- rediadau yr eglwys Gristionogol gyntaf a ffur- fiwyd dan oruchwyliaeth y Testament Newydd. Iddi y perthyna y rhai a ddycliwelwyd dan weinidogaeth bersonol yr Arghvydd lesu Grist; yma yr oedd Mair, mam yr Iesu, a Mair Magdalen, a'r chwiorydd ffyddlon eraill a enwir yn hanes bywyd yr Iesu; yma yr^oedd apostolion Orist yn aelodau; yma tebygid yr oedd y " deg a tliriugain eraill," a'r " pum' can' byodyr," ac at yr eglw^ys hon yr ychwanegwyd y dorf o ddychweledigion dydd y Pentecost, llawer o ba rai gwedi hyny a wasgarwyd, ac a sefydlasant eglwysi yn ngwahanol barthau y gwledydd lle y preswylient. Y mae o bwys ein bod yn sylwi beth oedd cymeriad yr eg- lwys hon, gan mai y Penathraw ei hun oedd wedi ei ffurfioathrefnu ei hachosion. Dywedir, " Ac yroeddynt yn parhau yn athrawiaeth— yr apostolion," hyny yw, yr oeddynt dan eu gweinidogaeth yn uniongyrchol, ac yn ymgadw i rodio yn ol eu hathrawiaeth. Hefyd, "yn nghymdeithas yr apostolion,"—yn mwynhau addysg y gymdeithas, a chysuron y gymdeithas. Hefyd, " mewn tori bara." Cymerent eu llun- iaeth mewn llawenydd a symledd calon, a thor- ent fara i gofio am ddyoddefaint a marwolaeth eu Hiachawdwr, yn ol ei orchymyn. "Ac mewn gweddiau," dymaran arbenig o'u gweith* rediadau eglwysig, sef glynu wrth weddio,— "pob duwiol a weddia arnat ti yn yr amser y'th geffir,"—rhai enwog mewn gweddiau oedd y rhai hyn—ty wysogion Duw oeddynt yn yr or- nwchystafell hono—a llwyddasant gyda Duw nes cael y tywalltiad i lawr yn ol y brophwyd- oliaeth ac addewid y Tad. Hefyd yr oeddynt yn "parhau" yn y pethau hyn, yr hyn a ar- wydda eu hysbryd diflin a phenderfynol yn ngwaith yr Arglwydd. Sylwn ar rai pethau perthynol i natur eg- lwys imrw dán yr oruchwyliaeth efengylaidd. 1. Ystyr y gair. Y gair gwreiddiol a ar- wydda cynulleidfa, neu rai wedi eu "galw all- an" o'r dorf gyfîredin. Defnyddir ef am gyn- ulleidfa, beb un cyfeiriad at ansawdd y gynull- eidfa, yn Act. 19 : 82, 89, 41. Yn ei gysylltiad ag achos Crist mae yn cael ei ddefnyddio am rai yn mynych ymgyfarfod yn yr un lle, ac yn rhodio yn nghyd dan gyfamod ac mewn cym- deithas a'u gilydd, mewn tori bara ac mewn gweddiau, megys yr eglwys hon yn Jerusalem, eglwys Corinth, eglwys Thesalonica, saith eg- lwys Asia &c.. Defnyddir ef hefyd i osod allan yr holl deulu gwaredigol o ddechreu i ddiwedd amser. Math. 10: 18; Eph. 1: 22; 3: 10; 5: 25, a manau eraill. 2. Mae eglwys Crist i fod yn gynulleidfa o ddychweledigion at yr Arglwydd. Nid rhai yn cymeryd eu cymundeb i'w cymhwyso i swyddi gAvladol, neu oddiar fod hyny yn enill iddynt enw yn eu hardal ac yn rnhlith eu cymydogion, yw ei haelodau teilwng, ond dynion syml, o í deimlad drylliog am bechod, yn arddel Iesu ( oddi ar gai'iad ato a dymuniad i'w ogoncddn yn \ eu bvvwyd, gan ei hystyried yn fraint oruchel i gael Ue yn ei dŷ, ac o fewn ei fagwyrydd. I'r cyfryw y perthyna y fraint o ddyfod at fwrdd Crist, a hwy yw y rhai tebygol o l'od yn ddef- nyddiol gyda ei achos. Gelwir bwy yn "saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesn," yn " oleuni y byd"&c. 3. Cynulleidfa yw a'i ffurf a'i threfn yn ddw}-- fol a nefol. Mae llawer o gymdeithasau daion- us i'w cael yn mlilith dynion y rhai y mae eu ffurfiad wedi ei adael yn hollol i ddoethineb ddyn- ol. Tybìa rhai fod eglwys Dduw yn gymdeith- as o'r cyfryw ansawdd,—nad oes un ffurf neill duol wedi ei nodi allan, ond fod hyny i'w ddew- is mewn gwahanol wledydd ac oesoedd yn ol amgylchiadau pethau, yn ol y drefn wladol fwyaf cymeradwy, ac yn ol doethineb pobl Dduw eu hunain. Ond nid felly y dysgasom Grist. Y mae trefn eglwys Crist, dull ei ffur- fiad, ei chwbl annibyniaeth ar bawb ond ar ei Phen a'i Hathraw mawr, enwau ei swyddog- íon, y modd i'w dewis, a pha waith a berthyn iddynt &c, oll yn gynwysedig yn y portreiad a adawyd gan Grist a'i apostolion; a'r gorchym- yn am hyny, fel am y Tabemacl gynt yw,