Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEMADWR AMEEICANAIDD. Oyf. 15, Khif. 10. HYDREF, 1854. Rhif. oll 178. BgtograffglrìroL FAFASOR POWEL A'I AMSERAU. Rhai pethau hynod yn mytcyd a gtceinidogaeth y gwas teilwng hwn i Grist, a gasglwyd yn nghyd gan rai Cristionogion ffyddlon ac ystyriol, a chyf- eillion ffyddlon iddo. Mr. Fafasor Powel a anwyd yn y n*. 1617, o genedl onest anrhydeddus, ei dad, Mr. Risiart Powel, o dylwyth enwog yn Nghymru, yn byw yn tnhlwyf Knockìas yn sir Faesyfed, Ile y bu ei deidiau yn byw dros rai cannoedd'o flynyddoedd o'i flaen, ei fam oedd o dylwyth y Fafasoriaid, cenedl o hynafiaeth ardderchog. a ddaeth o York- shire i Gymry, ac o ran ei dad a'i fam yr oedd yn perthyn i'r rhan fwyaf o'r tylwyth gorau yn Ngog- ledd-dir Cymru; er mai ei âch oreu acuchaf oedd ei fod wedi ei impio â chenedl anrhydeddus Abra- ham, neu mewn geiriau ereill, ei fod o ffydd Abraham,—canys y dynion mwyaf anheilwng a gwaethaf a allant yn fynych ymfFrostio yn eu gwaedoliaeth ardderchog yn ol y cuawd, eithr yr ail-enedigaeth yw'r enedigaeth oreu. Cafodd ei ddwyn i fyny yn ysgolhaig, a'i gy- meryd gan ei ewythr Mr. Erasmus Powel i fod yn Gurat yn eglwys Clun, lle yr oedd efe hefyd yn cadw ysgol, yn mba amser rhyngodd bodd i'r Arglwydd, yn nghanol ei wagedd a'i elyniaeth yn erbyn Crist a'i bobl, i'w alw a'i ddychwelyd (yn enwedig trwy weinidogaeth y gwasenwog hwnw i Grist, Mr. Walter Cradoc,) yr hwn gafodd ei ganlyn â gostyngeiddrwydd dwfn o herwydd yr olwg a'r teimlad o bechod, a chyflwr colledig wrth natur, a'i arwain gan ysbryd caethiwed, trwy ddy- cbrynfeydd y gyfraith i ddatguddiad eglur o gariad Crist yn mywyd a rhyddid yr efengyl, trwy ym- drechu âg amryw brofedigaethau oddifewn ac oddiallan. Mewn ychydig amser efe a gynyddodd nwch- law llawer, a thrwy fawr sôl a chariad at Grist, a ymroddodd yn ddyfal i bregetbu yr efengyl, gan lafurio yn helaethach na nemawr, ac ymroddi yn hollol i'r gwaith yn gyhoeddus ac yn ddirgel, a Duw yn cydfyued âg ef â'i fendith a'i bresenoldeb yn llwyddiannus iawn. CyfFredinolrwydd y wlad oeddynt y pryd hyny megys yn wynion i'r cyn- hauaf, yn dyfod yn nghyd yn ddifrifol i'w weinid- ogaeth, a Uawer trwy ei bregethiad a drowyd at 31 yr Arglwydd, fel ag y daeth sir Faesyfed, oedd o'r blaeu yn wlad dywyll, yn i'eddiannol o oleuni mawr, ac mewu amser byr, yr oedd yno lawer o broffeswyr enwog, wrth yr hyn dechreuodd satan ymgynddeiriogi yn echryslou, a chyfodi i fyny amryw offerynau i erlid y gwirionedd, gau gyn- llwyn am ei fywyd a'i ryddid, rhaä trwy ei garch- aru, eraill trwy greulondeb, nes ei yru allan o'r î wlad, i Lundaiu, lle y bu dros ainser y rhyfel; fe'i j galwyd i Dartford yn Nghent, lie bu yn llwyud- ; iannus iawn yn y weiniuogaeth, nes casglu cynull- ; eidl'a, yna pan ddaeth amser mwy heddychol, fe'i ; galwyd drachefu i Gymru, lle yr aduewyddodd ei I waith gynt, trwy bregethu'r gair mewn amser ; ac allau o amser, fel y darfu i Grist trwyddo ef ; wneuthur yn amlwg y ffafr o'i wybodaeth a'i ras ; yn mhob lle trwy'r wlad, fel nad oedd ond ychydig j (os oedd uu) eglwys, capel na tn*ef, Ile ua phreg- j ethodd GrisJ, iet pregethodd yn 'fynych ar fyuydd- ; oedd, ac mewn ffeiriau a marçhuadoedd; peth ; rhyfeddol oedd ÿstyried mor Ilafurus yr oedd efe ; yn pregethu mewn dau neu dri lle bob dydd, ac : anfÿnych y byddai ddaù ddydd mewu wythuos heb bregethu trwy yr holl ílwyddyu, 'íe, efe a farchogai gan' milltir weithiau mew'n wythnos, a phregethai yn mhob Ue ag y cauiateid iddo ddydd a nos. Pan fyddai yn myued heibio i ffair neu farchnad, neu unrhyw gynulleidfa (cymaint oedd ei gariad at eneidiau) efe a gymerai oedfa ar ei daith i bregethu Crist iddyut. Yr oedd ei holl fywyd yn bregethu parhaus, trwy roddi cynghor- ion addas i bawb a'i cyfarfyddai, gan fod yn ffrwythlon ac yn rhoddi siampl mewn geiriau, athrawiaeth, ymarweddiad ac ysbryd. Ei arfer pa le bynag y delai oedd gadael rhai athrawiaethau ysbrydol a pherarogl graslon o'i ol. Yr oedd wedi ei gynysgaethu â'r fath gryfder meddwl a'r fath nerth corphorol, fel yr oedd yn myned trwy ei waith gyda phleser mawr, llawer yn rhyfeddu pa fodd yr oedd yn dal i maes. Ýr oedd yn weiuidog nerthoi o'r Testament Newydd, ac yn barod ar bob amser ac ar bob achlysur i gyflawni ei weinidogaeth, ac fel penteulu da yn dwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen, yn ddiflino yn ei waith; yr oedd yn flỳddlon iawn i draddodi gair y gwirionedd, a'i egluro i'r gwanaf ei ddeall, yn gwneuthur ei orau bob araser i addasu ei ymadrodd at achos a chyflwr ei wran- dawyr. Nid oedd yn prisio nac yn ofni cilwg neb, na ffafr gwyr mawr, ond a'u rhybuddiai ac a'u