Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

/ O .7 Oyf. 17, Rhif. 6. MEHEFIN, 1856. EniF. oll 108. Jttoesol a (íljrffgbool. Y NOS SUL Y TRODD Y FANTOL. (O'r Cronii-1.) JBanesydd. John a James, dau was amaeth- wr eyfrifol a ddaethant i'w Ueoedd, o fewn milldir i --------, ar galangauaf. Yr ail nos Sul, aethant i'r drcf i ymofyn am ddifyrwch. Safent ar yr heol, rhwng addoldy eang a phalas y gwirod, pan o iewn chwarter i chwech. Yr oedd y blaenaf Avedi ei oleuo yn ysplenydd, a'r bobl yn ymgasglu ac yn dylifo i fewn. Yr oedd drysau yr olaf heb eu hagor, ac yr oedd canadau ar y ffenestri; ond gwelid drẁy y rhigolau fod goleuni a gwres yn y tŷ. John. I ba le yr awn ni? James. I'r dafarn yr âf fì. Adwaen y tŷ a'r teulu yn dda. Mae yn yr ochr gefn un o'r ystafelloedd mwyaf cysurus, a morwyn bryd- ferth a siriol yn gweini. Ac addefir fod yma y cwrw goreu yn y dref. JoJin. Pa fodd yr âi di i fewn ? Y mae y drysau yn gauad, ac ni chlywaf fi ddim swn. James. Mi wn i am ffordd i fyned i fewn drwy'r porth cyfyng yna i'r tucefn. Ac y mae yna bobl—gad i ni fyned. John. Na, i dŷ Dduw yr âf fi. Nid oedd y fath addoldy yn agos i'r man yr oeddwn y llynedd; ac ymollyngais yn wyllt, ond ni chef- ais gysur, ac yr wyf wedi edifarhau. Yr oedd genyf fam dduwiol, ac yr wyf yn credu ei bod yn awr yn y nefoedd. Oerddais lawer gyda hi i'r Ysgol Sul. Oynghorodd fi ganwaith ar hyd y ffordd. Yr oeddwn yn medru y deg gorchymyn, a llawer rhan arall o'r Ysgrythyr- au, pan yn 8 oed. Gwn i Dduw wedi gorphen oreu orphwyso y seithfed dydd, a'i santeiddio ef. Gwn iddo ddweyd yn bennodol ar Sinai, "Cofia y dydd Sabbath i'w santeiddio ef." Gwn i un dyn gael ei roddi i farwolaeth drwy orchymyh Duw am gasglu tanwydd ar y Sab- bath; a gwn y dy wedir yn y Testament New- ydd, "Yr hwn a ddirmygai gyfraith Moses a fyddai farw heb drugaredd. A pha faint mwy AM^KAf|]<MIAfri rlorwrronVi /thwî fafnn naaAAn /•*'»• hwn a fathrodd Fab Duw "—neu a dorodd y Sabbath dan oruchwyliaeth gras. 2V addoldy yr âf fi. Byddai arnaf euogrwydd ac arswyd troi yr ochr arall. Gwell i tithau ddyfod gyda mi. James. Taw, y peth gwirion. Bum inau yn yr Ysgol Sul, ac yr wyf yn medru hen straion y Bibl yna am y cread, a Sinai, a Chal- faria, a dydd y farn, a'r byd a ddaw; ond bydd- affiyn eu bwrwo'mhol: a phan ymlusgant i'm cof, byddaf yn ceisio eu hamheu. Tyred gyda mi; ond os na ddeui di, nos da—mi ûf fi. JoJm. Nos da—am y cyntaf adref. BOIÎE DYDD LLLN. / James. Pa bryd y daethost ti adref neith-1 iwr, John? John. Yr oeddwn i yma cyn naw. James. Oeddit mi wrantaf, yr hen ffalsiwr. Ehedaist dy oreu fel y gallet wthio i lewys y teulu ar fy nhraul i; ond beth wyt ti well, a pha les a gefaist yn y capel ? "" - John. Yr wyf yn meddwl fy mod beth gwell. Gwahoddodd rhyw un fi i'w gôr. Cef- ais le cysurus i eistedd mewn adeilad goleu a hardd. Cefais flas ar y weddi, ac yn wir yr wyf yn meddwl na buaswn wedi blino eto ar y canu. A buasai yn dda iawn genyf pe clywsit tithau y bregeth. Ni sylwais i ar neb erioed o'r blaen yn trin y testun. Y mae jn Job 24: 17, "Canj^s megys cysgod marwolaeth yw y bore iddynt hw}': dychryn cysgod marwol- aeth yw, os edwyn neb hwynt." Dangosai yn I. Nad yw dynion drwg am gael eu hadnabod. II. Yr adnabyddir hwy: daw yn"fore,"neu cyfyd yr haul ar eu cyflwr. III. Eu dychryn pan adnabyddir hwynt. Cyfeiriai at lofrudd wedi bod ar ffo, ac yn cael ei adnabod mewn cymanfa, a'i ddal a'i rwymo yn ngolwg yr holl dorf. Dywedai mai peth fel hyn, a deng mil- iwn mwy ofnadwy na hyn, fydd eyflwr yr annuwiol yn y farn. "Dycliryn cysgod mar- wolaeth yw, os edwyn neh hwynt." O! na chlywsit y sylwadau. Yr wyf yn meddwl yn ^ sicr y newidiasit dy ddull yn treulio nos Sab-