Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CËNHADWR AMERICANAIDD. Cyf. II. MAI, 1841. Rhif. 5. ©tttoítigtrtrtaetit. GWEDDÍ 'R FFYDD. " Os bydd ar neb o lionoch eisiau doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddanod, a hi a roddir iddo ef. Eithr gofyned mewn ffydd, heb ameu dim ; canys yr hwn sydd yn ameu, sydd gyffel- yb>i don y mor, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd." Iago 1: 5,6,7. Dyma un addewid o lawer a wneir i weddi: a phe iawn ddeallem hi, gwnai ein haddysgu pa fodd i weddio, a pha beth a allem ddysgwyl trwy weddi. Dengys y geiriau hyn fod gweddi o'r pwys mwyaf. " Os bydd ar neb eisiau doethineb golyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb ac heb ddanod : a hi a roddir iddo ef.': Gan fod Duw yn rhoddi doethineb i'r hwn sydd yn gofyn—a hyny o herwydd ei fod yn haelionus ac heb ddanod; nis gellir rhoddi un rheswm paham na rydd ef bob bendith angenrheidiol arall i'r rhai sydd yn eu iawn ofyn hwy. Hefyd dysg y gyfran hon o'r dwyfol wirionedd ni yr agwedd meddwl y mae yn gweddu i ni fod wrth weddio, fel y byddo ein deisyfiadau yn gymeradwy. " Gof- yned mewn ffydd, heb amcu dim, canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don y mor, yr hon a chwelir ac a deflir gan ygwyntî canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd." Nid pob matb o weddi sydd lwyddianus, ond gweddi'r ffydd yn unig. Nü oes gan yr amheus a'r anffyddiog un sail i ddysgwyl derbyn dim oddiwrth yr Arglwydd raewn atebiad i'w gweddiau. Os derbyniant ddim oll, mue yn rhaid i hyn gymerydhe mewn ffordd benarglwyddiaethol yn unig, ac nid ar hyd llwybr yr addewid; oblegid nid oes add- ewid iddi. Y gweddiwr mewn ffydd heb ameu yn unig sydd ar dir yr addewid, a gweddi'r ffydd yw y weddi gymeradwy. I'r dyben i osod y mater hwn yn fwy amlwg, mi a gaf yn bresenol gyfarwyddo eich sylw at yr ymofyniadau canlynol: 17 I. Pa beth yw prif amcan nen ddyben gweddi ? II. Pa le yr ymddengj'3 pwysfawrogrwydd y ddyledswydd hon ? III. Pa beth yw rhai o gytneriadau gweddi dderbyniol ? IV. Beth sydd i'w ddeall wrth weddi'r ffydd, a pha mor bell y mae Duw gwedi addaw gwrando y falh weddi. I. Pa- beth yw prif amcán neu ddyben gweddi ? Mae yn ofynol fod hyn yn ygoleu cyn y gall- wn faniu gyd ag un cywirdeb beth yr ydym yn geisio gan Ddnw, a pha un gwell ydyw ceisio neu beidio ger bron gorsedd gras. 1. Nid ei dyben yn sicr yw gwneyd y Gor- uchaf yn fwy hysbys o'n sefyllfa a'n hanghen- ion. Mae ef yn cylchynu ein llwybr a'n gor- weddfa—yn gweled trwom—yn adwaen ein hcisteddiad a'n cyfodiad—yn deall ein medd- yliau o bell—yn gwybod pob gair sydd ar ein tafod. Nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef. Yr oedd, y mae, ac efe a fydd felly byth; am hyny, nid i'r dyben i wneyd Duw yn fwy gwybodus am danom yr ydym yn gweddio arno. 2. Nid dyben gweddi yw cyffroi Duw mewn tosturi a haelusrwydd tuag atom, nac er peri fod ein scfyllfa yn ymddangos yn fwy gwych- aidd yn ei olwg ef nag oedd o'r blaen. Mae ef yn wastadol yn anfeidrol roesawus a hael, ac o dragy wyddoideb i dragywyddoldeb gyda'r un diysgogrwydd tosturiaethol yn canfod di- ffvgion ei greaduriaid. Ei gymeriad digyfne- wid a'i bcrffeithiadau a brofant hyn. 3. Nid dyben gweddi yw effeithio y cyfne- widiad Heiaf yn mwriadau Duw. Hyn sydd amhosibl. A fwriadodd efe, ac oni chyflawna ? a ddywedodd efe, ac oni ddaw i ben ? Y mae ef yn un, a phwy a'i try ef ? yr hyn y mae ei enaid yn ei chwenych a wna yn y nefoedd uchod, ac yn y ddaear isod. A phaham lai? ei fwriadau ef ydynt anfeidrol ddoeth a da; gwedi eu cynllunio mewn cyflawn olwg o drefn pethau dichonadwy ac annichonadwy. Na fynwesed neb obiegid hyn fod gweddi yn waith ofer. Na chaffed y fath dyb y croesaw lleiaf gan neb. Er nad yw gweddi yn cyfhewid dim ar Dduw, na mcddyliau ei galon ; eto, y mae