Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. 18, Rhif. 9. MEDI, 1857 EhIF. OLL 213. JlToeaol ct €t)V£f|rìíM. GORSEDD CRIST A CIIORON Y SAINT, NEU CORONAU Y SAINT WRTII ORSEDD CRIST. GAN Y PARCH. T. W. JENRYN, D. D., F. G. S., 0 ROCHESTER, GER LLUNDAIN. Dat. 4: 10—Yn bẅrw eu coronau ger bron yr orsedd- fainc. Mae y rhan hon o'r ysgrythyr yn rhoi i chwi gipolwg ar y nefoedd. Ehaid fod unrhyw hysbysiad am y nefoedd yn dra dyddorol i chwi, y rhai ydych ar y ffordd tuag yno. Y weled- igaeth hon, gan hyny, ar yr hyn sydd tu fewn i'r llen, a dueclda i'ch lloni a'ch bywiocau. Mae yn debyg fod Cristionogion yn dysgu mwy am y nefoedd, oddiwrth yr awgrymiadau a geir yn wasgaredig trwy Lyfr y Datguddiad, nag oddiwrth unrhyw ran arall o'r Ysgrythyr Lân. Mae y bennod hon yn eich dwyn i gy- segr nesaf i mewn y deml nefol; yn eich gosod yn ymyl y Sancteiddiaf ei hnn; yn cyfodi ych- ydig ar y llen, ac yn gosod o'ch blaen yr olyg- fa adfywiol hon o sefyllfa y saint mewn gogon- iant. Mae yr holl lyfr hwn wedi ei ysgrifenu i gadarnhau eich hyder yn nedwyddwch y saint mewn sefyllfa ddyfodol, ae i hwy]ysu eich hamgyffredion o'i gogoniant a'i gorwychder. Mae yr holl ddarluniadau o'ch sefyllfa ddyfod- ol, fel y maent ar lawr yn Llyfr y Datguddiad, yn dra hyfryd, boddhaol ac adfywiol. Mae y nefoedd yn sefyllfa o oephwysiad, ac am hyny darlunir y saint fel rhai yn " gorphwys oddi- wrth eu llafur." Yma maent yn bererinion mewn anialwch; yno maent mewn dinas gyf- aneddol, ac oll yn eu cartref. Yma maent yn fordeithwyr yn mhlith tymhestloedd a thonau; yno cant fynedfa helaeth i mewn i borthladd o dragywyddol dangnefedd. Yma yr oeddynt mewn llafur a lludded, mewn egni ac ymdrech; yno cant Sabboth tawel, a gorphwysfa dragy- wyddol gyda Duw. Mae sefyllfa y saint yn y nefoedd yn sefyllfa 29 5 o fuddugoliaeth, ac atD hyny darlunir hwy fel rhai a " phalmwydd buddugoliaeth yn eu dwy- law." Yma yr oeddynt mewn rhyfeloedd a brwydrau mynych gyda gelynion Uuosog a chedyrn—yn aml yn wan ond heb roi i fyny; —yno maent mewn ardal lle na bydd un gelyn. Yma yr oeddynt yn brwydro o leng i leng hyd oni chyfarfuasant â'r gelyn diweddaf oedd i gael ei ddinystrio; ond, yn yr ymdrechfa olaf hono, gosodasant eu traed ar wddf angau, tafi- asant i lawr eu cleddyf, a diangasant ymaith i dderbyn palmwydd y fuddugoliaeth. Mae y sefyllfa nefol yn sefyllfa o lawentdd, ac yn unol â hyn darlunir hwy fel rhai â " thelynau aur " yn eu dwylaw. Y teiynan liyn ydynt wedi eu gosod a'u cyweirio i wefreiddio yr holl nefoedd â'u Uawenydd hwynt. Yma yròeddyntynnyffryngalar; yno mewn ardal o berffaith ddedwyddwch. Yma dìlynent eu Hargiwydd "trwy lawer o orthrymderau;" yno maent wedi myned i mewn i "lawenydd eu Harglwydd." Eu holl ofidìau a adawyd isod; a "gwaredigion yr Arglwydd" ydynt wedi cymeryd i fyny â'u caniadau tragwyddo], ac wedi ymaflyd mewn telynau y rhai ni chrog- ir ar yr helyg byth. Y sefyllfa ddyfodol hon o eiddo y saint a ystyrir yn y testyn yn sefyllfa o ogoniant; ac am hyny maent yn cael eu gosod allan fel gwyr " coronog." Darlunir hwy mewn Ue arall fel rhai yn eistedd gyda Christ ar ei orseddfainc, ac fel personau o urddas breninol. Yn y tes- tyn.y mae pob un o honynt wedi derbyn ei "goron." Mor wahanol ydynt yn awr i'r hyn oeddynt yn ein byd ni! Yma yr oeddynt yn isel, gwael ac anadnabyddus, ond fel " ysgubion y byd a sorod pob dim ;" yno maent yn cael eu gogoneddu gyda Christ, fel cyd-etifeddion â Christ, o law yr hwn y derbyniasant y dalaith o ogoniant, palmwydden buddugoliaeth, "coron cyfiawnder." Dyben yr arddull ffigwrol hwn o lefaru, sef yr arddull breninol, yw dangos fod crefydd yn bendefigaidd a gogoneddus. Y " goron " y w y gwrthrych uchelaf y gall y dyn mwyaf mawr- eddus ymgeisio am dano. Y fath wrthrych