Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEMADWR AMERICAMIDD. Cyf. 18, Riiif. 11. TACHWEDD, 1857. Rhif. oll 215. Biuljbraitljoìratul. BYWGRAFFÌAD Y DFWEDDAR BAROII. DANIEL REES, BEA.YEE MEÂDOW. Mae yn perthyn i bob gwiad eu henwogion, ac y mae gan bob cenedl eu coffadwriaethau am eu gwroniaid,—hyd yn oed mewn gwledydd anwaraidd, lle nad yw y gelfyddyd o ysgriíenu nac argraffu yn bysbys, cyfansodda eu beirdd ganiadau meitbion a doniol o ganmoliaeth i'w ' henwogion; dysgir y rhai'n yn gyffredin gan y gwragedd; a throsglwyddant hwythau bwynt i'w mercbed, a'r mercbed i'w plant hwythau, a hyny am gannoedd o fiynyddau. Felly, er na fedd y rhai'n na phapyr na llythyrenau, mae ganddynt eu cofiantau am eu henwogion. Ond yn fwy neülduol cenedlaethau gwrareidd- iedig a ysgrifenant ac a argraffant en cofiantau. Ond y mae llawer o wrthrychau y cofìantau hyn yn eithaf annheilwng o'r fath ganmoliaeth. Ee allai mai eu prif nodweddau oedd hela, pysgota, neu ryfela, dystrywio a thywallt gwaed. "Nid oedd yn Uawer o honynt y gron- yn lleiaf o rinwedd na moesoldeb, chwaethach crefiydd. Yn awr, os ydyw dynion o'r fatb uchod yn teilyngu cofîantau, neu'n hytrach, os ydynt yn cael eu canmol trwy yr oesoedd pan na wnaeth- ant ddim ond llygru y byd a drygu cymdeithas, pa faint mwy y dylai dynion gwir rinweddol a chrefyddol gael eu cofio, pa rai trwy eu rhin- weddau a'ü gwasanaetbgarwch a wnaetbant ddaioni i'r byd; y rhai trwy eu llafur diflín y darfu iddynt buro a choethi cymdeithas, a throi traed llawer i lwybr y bywyd. Mae y gyfrol ysprydoledig yn Uawn o gof- nodion am ddynion o'r fath hyn—yn coffau eu henwau yn barhaus, ac yn siarad am eu rhinweddau yn uctíel. A diau ei fod yn ang- haredigrwydd mawr a dynion a wnaethant gy- maint o wasanaeth i gymdeithas, i adael eu henwau i syrthio i lwch anghof. Nid ydyw ond cydnabyddiaeth bach iddynt i'w holynwyr i drosglwyddo eu henwau yn barchus i'r oes- 36 oedd dyfodol, a rhoddi daiiun mor gywir ag y medrir o'u nodweddau o flaen cymdeithas. Nid yn unig mae hyn yn deg ag enwau y mei- rw, ond y mae yn lles i'r rhai byw. " Goffadwriaeth y cyfiawn sydd fendig&äigP Pa beth sydd yn fwy hyfryd a dyddorol na darllen hanes bywydau dynion duwiol a llafur- us a fuant ar faes crefydd o'n blaen f Mae yn creu ynom benderfyniad, ac yn enyn ynom sel am fod yn debyg iddynt. Wedi i St. Jerome ddarllen hanes bywyd St. Hilarion, neicliodd ar ei draed a daliodd y llyfr yn ei law, a gwaeddodd, uSt. Ililarion fiyddfiy mlaenor—0 amfod yn débyg iddo amfiy oes /" Mae cann- oedd yn brofiadol, wedi iddynt ddarllen hanes llufur ac ymdrecbion dynion da, iddynt gael eu cynhyrfu bob ewin gyda'r hen Jerome i wneu- thur ymdrechion newydd gyda'r gwaith pan oeddynt ar ddigaloni o'r blaen. Ond ni ddylai neb farnu teilyngdod y dyn wrth hyd a maint y cofiant. Mae ydynion mwy'af diwerth weithiau wedì cael y cofiantau meithaf; a'r dynion teilyngaf heb ond ychydig gofnodion am eu henwau. Ysgrifenwyd cyfrol Aveithiau am ddyn nad oedd yn teilyngu gwerth ceiniog o gofiant, a gadawyd coffadwriaethau y dynion goreu a fu dan awyr i farw fel nad oes neb y dydd heddyw yn cofio eu henwau, na gwybod y manau y buont yn trigianu. Mae cantioedd o hen Gristionogion selog wedi bod yn Nghymru, ag a ymdrechasant hyd at wTaed dros enw eu Duw ac achos eneidiau dynion; ond nid oes neb ar y ddaear heddyw yn gwy- bod eu henwau. Ond os nad ysgrifenwyd cof- iantau iddynt ar y ddaear, mae Duw wedi ys- grifenu llyfr coffadwriaeth am danynt yn y nef, —-mae eu henwau ar gael oll yno, ac fe geir clywed eu holl rinweddau a'u gweithredoedd da yn cael eu darllen allan o'r llyfr yn nydd y farn. Dyma gofiantau fydd yn newydd byth, ac ar gael pan fydd cofiantau dynion wedi eu llosgi yn y danchwa gyffredinol. Yr wyf yn dra hyderus y bydd cofiant y brawd uchod yn barcbus yn llyfr Duw, pan y bydd yr ychydig linellau hyn ar goll byth. Treuliodd y brawd parchus, Daniel Rees, y rhan foreuaf a'r rhan fwyaf o'i oes mewn lle a