Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. III. MEDI, 1842. Rhif. XXXIII. Pmmnyìròiaetl). BOD DUW. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r ffurf- afen sydd yn inynegu gwaitu ei ddwylaw ef."~-Salm 19:1. Nid oes un gwirionedd yn fwy pwysig na bod Duw, ac nid oes un gwirionedd yn çael ei brofi yn fwy eglur na 'r gwirionedd hwn. 1. Oblegid lluosawgrwydd y tystion |ydd yn cyd brofi hyn. Y mae bychain a mawrion bethau yn profi hyn,—o'r llei- af o greaduriaid Duw hyd y mwyaf o honynt. Y mae ôl Ior fel Gwneuthurwr ar hob tywodyn sydd ar gylchoedd y mor- oe|d mawrion, ac ar holl ddail y coedydd, &c.,—y glaswellt a llysiau y dyffrynoedd, ymlusgiaid yr anialwch, pysg y moroedd yn eu gwahanol ddulliau, yr ehediaid a'u lliwiau dengar a'u Ueisiau melusber, oll a brofant fod Duw. Gwelir amldra o fod- au dysglaerwych yn crogi uwchben yn y ffurfafen anfesurawl yn tystio oll fod idd- ynt Wneuthurwr. Y mae swn y daran, chwythiad yr awel, a cbylchrediad y bod- au naturiol, oll yn profi fod iddynt eu Gwneuthurwr,—fel y gellir dywedyd fod pob peth trwy greadigaeth ogoneddus Iôr yn cyd brofi fod Creawdwr a Chynaliwr iddynt. " Dy holl weithredoedd a'th glod- forant, O Arglwydd, a'th saint a'th fen- dithiant." Saiml45:10. * 2. Y mae parhad tystiolaeth yr amryw- iol fodau gweledig ac anweledig yn profi bodoîiaeth Duw. Y mae y greadigaeth fajwr o'r dechreuad a'i llais yn oestadol yn Äsfaru am ei gwneuthurwr. Yr oedd hon yn tystiolaethu wrth Adda foreu yn ei ddedwyddawl Ardd, ac yn barhaus hi a dystiolaethodd i bobl yr hen fyd, ac yr oedd amlygiad eglur o hyn pan ddaeth y cre- aduriaid i'r Arch, ac yn amser nofiad yr Arch ar gefn y diluw difäol. Nid oes cil- fachlle nad oes myrdd o dystion yn par- haus brofi y ígwinonedd hwn, o ben y Mynyddoedd Caregog byd Cape Horn, îet trwyholl wledydd maith y byd. * mae goleuni, tywyllwch, haf, gauaf, yn cyd brofi bodoliacth rhy w anfeidrol Fod, 33 a hyny bob eiliad. Y mae y swn a dery ein clustiau, arogl ein ffroenau, ac arch- waeth ein geneuau yn profi hyn; y mae teimlad ein haelodau a grym ein fferau, goîeuni ein llygaid, a gwaith ein dwylaw yn profi hyn. Y mae tystion dirifedi yn ein hamgylchu ddydd a nos, y rhai sydd yn cyd osod ger ein bron fod y Jehofa yn bod, fel nad y'm i fod un amser mewn angof o hono, am ei fod ef wedi ein cyn- orthwyo i feddwl am dano pan yn canfod yr hollbrofiadau sydd yn dwyn einmedd- yliau i gofio fod Duw yn bod. 3. Y mae yr holl dystion Uuosawg yn parhaus dystio y gwirionedd hwn metm modd cywir. Nid y w y tystion aml hyn yn dyrysu fel tystion llawer senedd ddae- arol, ac yn methu trwy eu gwrrthddywed- iadau; y mae anffyddwyr y byd yn rhy fach eu dyfais a'u dichelìiòn i ddyrysu yr un o'r tystion aml sydd gan Dduw yn mynegu am dano ei hun. Y mae yr holl rai hyn, fel rhai a osodant allan fodoliaeth Duw, yn unol a diddiffyg. Y mae holl ddeddfau anian yn cywir fynegu i ni eu Gwneuthurwr. Y mae cywirdeb amser- awl haf a gauaf, dydd a nos, &c, yn parhaus ddwyn tystiolaeth i'r ungwirion- edd ; ond y mae rhai dynion mor ynfyd a dywedyd yn eu calonau nad oes un Duw! 4. Y mae afresymoldeb barn y gwrth- gredinwyr yn profi hyn. Y mae yr an- ffyddwyr yn dywedyd mai dyfod i fodol- iaeth o ddygwyddiad a wnaeth holl beth- au y byd presenol. Wrth chwilio a dilyn y farn hon, gellir dysgwyl i bethau eto i ddygwydd yn ychwanegol, ac os felly gall fod haul arall i ddygwydd bod y fory yn croesweithredu i'r un a'n gwasanaethum yn awr. Gall yr haul ddygwydd ddyfod ì gyffwrdd â'r ddaear, os dygwyddiad ydy w. Gall y môr ddygwydd sychu yr awrhou, a'r llongau nofiadwy i droi yn bysg trwy ddygwyddiad. Gallyrhaffod ynbarhaus, a dydd barhau heb nos os dygWyddiad yw fod pethau fel y maent. Gall yr anffydd- iwrdroi yn fwystfil neu yn faen, neu bren; ond y mae y dyb hon yn wael a disail, ob- legid y mae olynöl ddilyniad bodau, ä chy- wirdeb gweithrediad deddfau anian yn profi yn eglur fod Duw, ac y mae amrai anffyddwyr ar eu terfynau olaf wedi gor- fod dwyn tystiolaeth i'r gwirionedd hwn-