Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENHADWR ÁMERICAMIDD. Oyf. 23, Rhif. 8. AWST, 1862. Rhif. oll 272L (Eraeíljûìraît PREGETII AR GADW Y SABBOTH. GAN Ỳ PAEOH. M. D. MOEGAN, P0TTSVILLfi, PA. " Cofia'r dydd Sabboth i'w sancteiddio ef." Dyma orchymyn y Duw mawr a lefarwyd mewn dwyfol awdurdod a mawredd oddiar fynydd Sinai, ac a ysgrifenwyd gan Dduw ei hunan â'i fys ar lechau ceryg. Nid oes yr nn o'r deg gorchymynion yn cael ei ddiystyru yn fwy na hwn gan y eyffredinolrwydd o ddynion yn y dyddiau hyn. Mae y rhag-nod pwysig sydd o'i fiaen, sef "cofia!" yn brawf o'r rhag^- weliad dwyfol o duedd dyn i'w anghofio. Nid ydym mewn un modd i feddwl mai i'r Iuddew- on yn unig y rhoddwyd ac y bwriadwyd y gorchymyn hwn. Nid yW o natur seremoniol ond moesol fel y naw eraill. ISÍid pan y rhoddwyd y gyfraith i Moses y sefydlwyd ry Sabhoth gyntaf; ond adnewydd- iad °ydoedd o'r hyn oedd wedi dirywio. Yr ydym yn darllen am y Sabboth, neu o'i ystyr, sef gorphwys^ yn yi4ail bennod o Genesis,— wedi i'r byd gael ei orphen, fod yr Arglwydd Wedi bendithio y seithfed dydd a'i sanoteiddio, neu ei neillduo i'r dyní:i godi ei feddwl mewn modd neillduol at ei Greawdwr mewn parch ac addoìiadÿ a diamheu^fod Adda, Abel, Noah, Abraham, a holl ddynion da yr oesoedd bor- euol yn parchu y Sabboth. Ond wedi i hiì- iogaeth Abraham gael eu caethiwo ytì yr Aifft mae yn ddiamheu nas gallasent ei gadw fel ag y dylasent. Mae y gorchymyn hwn gan hyny yn orchymyn parhaus i ni i ufuddhaü iddo. Os oedd yr Argiwydd yn gweled yn angen- rheidiol i Adda i'w gadw yn mharadwys a chyn iddo beehu, pa faint mwy y dylera ni ei gadw! Yr oedd ef yn ei ddedwyddwch cyn pechu heb lafur fel ni i orphwys oddiwrtho. Yr oedd ei galon yn llawn o gariad at Dduw cyn iddo bechu, fel ag yr oedd pob dydd fel Sab- both iddo; ond am danom ni mae llafur y corff a gofal y meddwl yn gwneud un diwrnod o saith i orphwys yn angenrheidiol ac yn fen- dithiol. Heblaw hyny, yr ydym mor llawn o 52 bechodau, ac yn cael ein cylchynu â themtas-* iynau, ac mor barod i anghofio Duw a'n hen-i eidiau ein hunain, fel ag y mae yn angenrheid- iol i ni i gael un dydd yn yr wythnos i alw yn ol ein myfyrdodau a'n serch oddiar bethau y byd a'u cyfarwyddo at y pethau sydd uehod. Ac er nad ydyin yn eadw yr un dydd a'r luddewon, maent hwy yn cadw y seithfed dydd a ninau y dydd cyntaf. Nid ydy w rnoes- oldeb y gorchymyn yn cyfyngu at y seithfed dydd, ond y seithfed ran o'n hamser. Hefyd mae genym yr un awdurdod i gadw y dydd eyntaf ag oedd gan yr IuddeWon î gadw y seithfed, oblegyd fod Iesu Grist yíí Áfgîwydd y Sabboth, ac yr oedd ei apostolion yn gweith»- redu yn ol ei gyfarwyddyd ac o dan ei ddylan-- wad,. pa rai oeddynt yn cyfarfod y dydd cyntaf o'r wythnos i addoli, pa un oeddynt yn alw' yn "ddydd yr Arglwydd," Act. 20: 7; Dat, 1: 10. Fel yr oedd ý cyntaf yn canlyn gwaith y greadigaethj felly ein Sabboth ninau sydd yn ganlynol i orpheniad gwaith inawr y brya- edigaeth. Mae y gaîr "cofìa" yn awgrymu y dylem wneud rhagbarotoadau cyn y Sabboth i'r dy-- ben i'w drenlio yn llwyr gyda gwaith yr Ar- glwydd. Dylem gofio ar ddydd S'adwrn i foi ein gorchwylion ein hunain yn brydlawn heib- io er parotoi i gadw y Sabboth. Ond och! nid fel hyn y mae. Mae llawer yn hwyrach heb fyned i'w gwelyau ar nos Sadwrn o orian nag un nos arall, ac oriau yn hwy heb godi foreu Sabboth nag un dydd arall, a phrin y gwelir hwy yn brydlawn yn yr addoliad (fe allai) am ddeg o'r gloch, ac felly yn colli y rhan oreu o'r dydd. Md ydyw hyn yn gadw y dydd Sabboth, ond rhyw ran o hono. Dyl- em sylwi ar y gorchymyn, u't dydd Sabboth." • Pwy fyddai yn foddlawn i weithiwr dyddiol i ddyfod at ei waith am ddeg o'r gíocb, a gor- wedd wed'yn, fe allai, o nn ar gloch i bedwar. Nid oes neb a ddywedai fod y dyn hwnw wedi gweithio diwrnod, ond rhyw ran fechan » hono, ac nid oes neb dynion a gymerai hyn ar ei law, ond eto fel hyn, a gwaeth na hyn, y mae llawer yn gwneud â dydd Duw„