Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CENHADWR AMERICMAIDD. Oyf. 21, Rhif. 8. MAWRTH, 18 63. Rhif. oll 279. Bucl)írraetI)obol Y PARCH. JOHN LEWIS, O'R BALA. Ganwyd John Lewis yn Caerhys, Plwyf Llanuwchllyn. Aeth ei rieni Lewis Jones a Gainor ei wraig oddiyno, meddyliem, i fyw i Hafodyrhaidd yn yr nn Plwyf', pan oedd John yn hnr ieuanc. Daeth at grefydd yn Ued ieu- anc—ymunodd â'r eglwys ya yr ! en Gapel pryd yr oed i y Parch. Abraham Tibhot yno yn weinidog. Yr oedd yno ainryw wyr ieu- ainc eraill wedi ymuno â'r eglwys yn agos ar yr un amser; ond yr oedd John Lewis yn cael edrych arno gan y rhai deaîlgar yno yn llawn, os nad yn fwy cyflym ei ddeall, a rhwyddach ei ddoniau na neb o honynt. Yn fuan wedi iddo ddyfod i'r gyfeiìlach grefyddol, denwyd ef gan rai o'i hen gyfeilfion i ddawnsio aram- ser ffair yn y Llan, a dywedai nas gallai ang- hofio y tro hwn tra y byddai byw-—teimlai y fath argyhoeddiad yn ei gydwybod ar y pryd, fel yr oí'nai i'r lloft yn yr hon y dawnsiai syrthio dan ei draed, ac yr â'i ef a'i gyd- ddawnswyr i dragwyddoldeb ar daravyiad an> rant—gallem gredu inai ychydig o ddifyrwch a gafodd yn ei ddawns, ac nad Ilawer o hyf- rydwch a gafodd ei gyd-ddawnswyr yn ei gyf- eillach yntau chwaith. Y pryd hyny byddai lluaws o fechgyn ieuainc, yn enwedig tua'r Nadolig, yn arferol cicio pel droed ; ac wrth i J. Lewis fyned trwy y cae yr oedd lluaws wrth y gorchwyl, dyma y hel-droed yn dyí'od ato, a rhod(îod<i yntau gic neu ychwaneg iddi hefyd, a gwnaed sylw Ued heJaeth ar hyn gan y chwareuwyr, a mwy nag a fuasai yu deg o siarad am yr ymddygiad gan lawer; ac ofnai rhai o'i gyfeillion crefyddol ei fod yn dechreu tynu yn ol oddiwrth grefydd, ac ymddyddan- asant âg ef, a chynghorasant ef yn ddifrifol i ochelyd cyfeillach ei hen gyfeillion gwylltion ao anystyriol; a gwrandawai John arnynt yn bwyllog, a dy\vedai nad oedd ganddo ef un meddwl tynu yn ol oddiwrth grefydd, ond ei fod yn anfwriadol wedi rhoddi ychydig droed- iadau i'r bel ag oedd yn rhedeg mor deg ac un- fawn i'w gyfarfod, ac uad oedd ar y pryd wedi meddwl fod unrhyw niwed yu yr ymddygiad: a derbyniodd y cynghorion a gafodd yn yr am- gylchiad gyda sirioldeb, a glynodd wrth ei grefydd a'i gyfeillion crefyddol gyda mawr serch a diwydrwydd. Ar ol blynyddau o broffes, meddyliem, a eefydlu ei gymeriad fel crefyddwr, aeth i'r rhwymyu priodasol âg un Mary Morgau, (yn hytrach Jones) o'r Ddolfach, LlanuwcIiDyn, a bu iddynt ddwy ferch, Gwen a Mary. Y mae Mary, yr ieuengaf, yn awr yn byw gyda ei phriod Tbomas Rowîand yn Haf- odyrhaidd. Bu farw Gwen, a gadawodd ddwy ferch ar ei hòl, Mary a Gwen, y rhai sydd yu awr yn byw, un yn nghymydogaeth'- Llanuwchllyn, a'r llall yn Dghymydogaeth y Brithdir Plwyf Dolgehau.—Maey ddwy mewn seíÿllfa briodasol, ac iddynt hiliogaeth, Bu John Lewis tua chwech a haner o flyn- yddoedd yn bi'iod, a bu farw Mary ei wraig, yr hon a ystyrid yn ddynes neillduol o gref- yddol: mewn canlyuiad i hyn, gadawyd gwrtliddrycl) ein cofiant yn weddw am flyn^ yddoedd. Yr oedd yn arfer darllen penod, ao esponio ychydig arni mewa cyfarfodydd gwedd- io er's talm, cyn dechreu pregethn yn gyhoedd» us a rheolaidd ; a bu am dymor wedyn yn fath o Genadwr mewn rlian o Sir Drefaldwyn, ya fiaenoi ol i farwolaeth ei briod; ond wedi hyny yn mlynyddoedd ei weddwdod, anogwyd ef ì fyned i Wreesam i'r AtI;rofa. fel y gallai ddeall a siarad Saesuaeg. Yr oedd tua deugain neu ychwaneg o oed pan aeth i'r Athrofa gyntaf; o ganlyniad, nis gallesid dysgwyl iddo fod yn ysgolor mawr mewn 4 blynedd o amser a dreulioddyn yr Athrofa; fodd bynag am hyn, bu yn llawer o fantais iddo yn nbymor ei wein^ idogaeth wedi hyny, Wedi dyfod yn rhydd o'r Athrofa, cafodd alwad i ddyfod i Lanfyllin, ar brawf, fel gwein- idog gan yr eglwys Annibynol yno; ond ni sefydlodd yno, ao anogwyd yr eglwys Anni- bynol yn y Bala i roddi galwad îddo fel eu gweiuidog. Ac wedi maith ymraniad yn atn- ser eu hen weinidog, Mr. Thomas, ymunodd y pleidiau rhanedig yn Mr. J. Lewis ; a rhoddt asant alwad galonog iddo, ao urddwyd ef yno