Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

\Á Y CENHADWR AMEMCAMIDD. Oyf. 24, Rhif. 8. AWST, 1863. Rhif. oll 284. Sraetfyofrau. GRAS A DYLEDSWYDD. Yn canìyn y ceir ychydig sylwaäau ar y mater uchod, y rhai a draddodwyd yn Nhghyfarfod Chwarterol Newport, gan y Parch 3. P. Thomas, Ridge, ac a anfonir iW Cenhadwe ar gais y orodyr. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hyny nid o honoch eich hunain ; rhodd Duw ydyw. EFH.2:8. Am hyny, fy anwylyd, megys bob amser yr ufndd- liasoch, nid yn fy ngwydd yn unig, eithr yr awr hon yn fwy o lawer yn fÿ absen—gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn. Phil. 2: 12. Mater hynod bwysîg yw iachawdwriaeth pechadur. Rhaid cael dwy blaid i weithredu inewn trefn i ddwyn y gwaith i ben—rhaid i Dduw weithio, a rhaid i ddyn weithio hefyd. Os edrychwn ar yr adnod flaenaf a ddarllen- wyd, gallem feddwl mai gwaith Duw yw y cyfan,—" Oanys trwy ras yr ydych yn gadw- edig, trwy ffydd—a hyny nid o honoch eich hunain, rhodd Duw ydyw." Ac os edrychwn ar yr ail adnod—gallem feddwl fod cadwedìg- aeth pechadur yn ymddibynu yn hollol ar waith dyn, " Gweithiweh allan eich iachawd- wriaeth eich hunain trwy ofh a dychryn." Mae y rhanau o'r dwyfol wirionedd a ddar- ìlenwyd yn sylfaen i bregethu ar y pwnc go- eodedig yn y Owrdd Ohwarter presenol,—ac mae'n debyg mai i mi, y llai na'r lleiaf o'm brodyr, y rhoddwyd y gwaith o draethu ar y mater. Nid wyf yn ystyried fod ynof gym- hwysder i bregethu ar fater neu bwne gosod- edig—ond gwnawn ein goreu- yn ol yr am- gylchiadau. Gan mai gras a dyledswydd .yw y mater, dy wedwn ychydig I. Ab eas. Yr esboniad a rydd awdwyr ar ras yw—^rhad rodd, ffafr heb ei haeddu, neu ewyllys da Duw i ddynion anháeddianol. Ond mae i'r gair gras ei wahanol ystyriaeth- au yn y Beibl. Mae y gair gras yn golygu mewn rhai manau, gwaredigaeih o gyfyngder. Hyny a olygai Ezra pan ddywedai, "Ae yn. aWr drps enyd îeehan y daeth gras óddiwrth yr Arglwydd ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc." "Wrth ras yn y man yma y golygir y waredigaeth a gafodd pobl Israel o gaethiwed trwy frenhinoedd Media a Persia, fel offerynau yn llaw'r Arglwydd. Golyga gras hefyd, yr Efengyl. Mae yr Ef- engyl yn myned dan yr enw gras yn Ued aml yn y Beibl. Dywedir, "Oblegyd nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras," h. y., nid ydych chwi dan y ddeddf hono sydd yn hawl- io ufudd-dod^ac heb roddi tueddfryd meddwl i ufuddhau, yn condemnio pob trosedd a phob meddwl ansanctaidd, ac heb ddarparu un Uwybr i ddileu pechod, nac estyn maddeuant o hono, " eithr dan ras," h. y., dan drugarog a haelfrydig oruchwyliaeth yr Efengyl—ac er fod yr eîengyl yn gofyn y cydífnríiad mwyaf trwyadl gan y pechadar ag ewyllys Duw, ceir ynddi hefyd nerth digonol i ufuddhau, a thrwy Iawn Orist medr Duw faddeu y pechodau a wnaethid o'r blaen, a rhoddi digon o ras i gy- nal y crediniwr yu y dyfodol. Yr Efengyl hefyd a olygir yn yfgelriau hyny, " Fa dderbynioch ras Duv/ yn ofer,frh. y., na dderbynioch y cynygiad grasol o gymod a maddeuant yr hyn a gynygir i bawb trwy yr Efengyl, yn ofer. Golyga gras hefyd, holl ddaioni Dtiw i ddyn- oliaeth, sef yr oll a gyfrenir gan Dduw i fyd o ddynion anhaeddianol. Oras yn yr ystyr yma yw ein bodolaeth a'r oll a ddei'byniwn o law yr Arglwydd. Gras yw yr awyr a anadlwn, yr ỳmborth a fwytawn, ý dwfr a yfwn, y dill- ad a wisgwn, yn nghyd a'r iechyd a roddir i ni i fwynhau y cyfan. Ond golyga gras yn benaf, holl ddarpariad- au Duw er achub y ì>yd, " Oanys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hyny nid o honoch eich hunain, rhodd Duw ydyw." " Oanys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd ,Iesu Grist, &c." Yma mae gras wedi dar- paru trefn fawr yr achub. Gras oedd y bwr- iadau tragwyddol a'r meddyliau o hedd am rai yn gorwedd mèwn drygioni. Gras ethol- odd y Meichiai, ddarparodd yr aberth, roddodd yr addewid o had y wraig i ysigo siol y sarff, ac a ddanfonodd' y Mab yri nghyflawnder yr ámser. Gras sydd yn cyhoeddi trefn iach-