Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUAD YR OES. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1830. [Cyf. IV. YSTYRÎAETHÄÜ AR GAETH.FASGNACH. <m>- Ow ! gwârthns ydyw gwcrthu, (Duw IoN da) y dynion dtt; A'u gwthio i Gacthiwed, Heb un galon lon ar led, I roddi rhwydd gysuron, I oer friwiau y frau fron. *m> "jljrOR naturîol ác y ílosga y tàn, neu ■"—• eheda y wreichionën i fynu, neu yr â y dwfr ar y goriwaered, mor nalur- iol a hyny mae natur à thuedd cäethiwed i anwareiddio dynolryw, a\i gwneuthur yn ysglyfaeth i bob direidi. Yn yr un graddau ac y mae Caethiwed yn iselu y cymeriad dynol, y mae rhyddid ỳn ei gyfodi ac yn ei addurno; ac yn ei gor- oni a gwirionedd y nef. Caethiwed sydd yn elyn i ddysgeidiaeth a gwybod- aeth, a phob diwygiad a chynnydd. Rhyddid sydd yn gyfaill i bob daioni er Iles dynoliaeth, gan drwsio y meddwl, y galon, y wybodaeth, aphobteimladau dynol yn ngwisgoedd y goleuni nefol; pan y mae caethiwed yn bwystfileiddio dynolryw, a'u gwneuthur yn amddifaid o freintiau natur, ac yn eu gwisgo a di- deimladrwydd yn ngwisgoedd hell-ddu y tywjilwch. Gymry hawddgar, y mae heddyw ysgwaethyroedd, filoedd o'n cyd-greaduriaid yn dihoeni o her- wydd anwybodaeth a chaethiwed. Mil- oedd yn griddfan dan lyffetheiriau gor- rneswyr a'u ffonnodiau celyd, rhai a'u cnawd yn rymau cochion, ereill a'u cnawd yn ddu, ereill a'u cnawd wedi ei fraenaru, ac yn glynu wrthffiangell y dieiflddyn calon galed, a elwir yNegro Driver. Ymddyga hwn yn waeth at ei gyd-ddyn, nac yr ymddyga llawer yn ein g^lad ni tuag at afresymolion. Dynoliaeth! Pa le yr ydwyt î A oes a lefara drosot ? Neu a oes Cynghorwr i ti yn mhlith plant dynionî Y mae dy delyn yn nghrog ar yr helyg; ac yn llc canu i lonni pob calon, ac esmwythau pob teimlad. Wjio yr ydwyt wrth wel- ed llun a delw'r nefoedd yn nghystudd yr anwar—a than ewinedd llewod ac arthod ysglyfaethus; pa rai gyda chan- ibalaidd ac anwnaidd waith, a ddinys- triant gysuron y trueiniaid du. Golyg- wch ein bod yn gweled y cabin gwael, lle mae nattur wedi gosod eu tynged. Y bwthyn yn llawn, a rhai o'r plant yn chwareu o amgylch coesau eu tad, er- eill yö èistedd ar ei gliniau, ac ereill yn cael eu gwasgu yn anwyl yn monwes eu mam, a boddlonrwydd yn rhwymo eu cymdeithas. Pan y mae pob peth ar y goreu, a Uawenydd yn argraffedig ar- nynt oll, a sirioldeb eu gwenau yn cor- oni eu hwynebau, wele y dyn-leidr yn dyfod i mewn,ac yneu cymeryd ymaith, a thori y gymdeithas anwyl hon. Yn cymeryd y fam oddiwrth ei phlentyn, a'r plentyn oddiwrth y fam—y wraig oddiwrth y gwr, a'r gwr oddiwrth ei anwyl gydmar,—oddiwrth ffrwyth ei lwynau,—hoffder ei enaid,—a gofal ei holl einioes. Dyma greulonder—dyma ffrwyth anwareidd-dra—aç o ddyn, pa hyd y peri dy anwareidd-dra; a pha cyhyd y cildynu oddiar lwybrau gwy- bodaeth a rhinwedd. Y fasgnach ysgeler hon sydd yn ofnadwy fel ac y mae yr hanes a roddir o honi yn ddigon i beri i'n gwaed rewi yn y gwythenau. Y trais a'r gormes, y gwaed a'r mwrddraiî SYdd vn nglyn a hi, a bar i'r teimladau 45