Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUAD YR OES. Rhn. 5.] MAI, 1827. [Cyf. 1. COFIANT Y PARCH. DAPYDD JONES, GWEINIDOG ADDOLDY IARLLES HÜNTINGDON, ABERTAWY, A Dysgawdwr Ieithoedd Gwreiddiol yn Athro/a Cheshunt. YPabch. Dafydd Jones, maby Parch. Thomas Jones, Caerfyr- ddin, a aned yn Cwmcreigiau Bach, swydd Caerfyrddin, ar yr lleg o Chwefror, 1793. Mwynhaodd yn ei fabandod y fraint o addysg crefyddol, danofalteulaaroddentymostyngiadi'r gorchymyn ysgrythyrol, 'Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffbrdd, a phan hen- eiddio nid ymedy â hi/ Yn fore hefyd yr oedd ganddo y cyfleusderau o gael cyfarwyddiadau a chynghorion blaen- oriaid ac aelodau y gymdeithasgristion- ogol, i'r hon y perthynai ei rieni; ac ymddengys bod bendith Duw yn gyd-fyndedol â'r breintiau ag oedd Mr. Jones yn fwynhau y pryd hyn. Ym- ddengys bod ei galon yn ymostwngdan deimlad o'i gyflwr gwrthgiliedig ac audwyol wrth natur. Pan oedd ond 11 oed, arferai ar y nail a'ifam dduwiol, gadw dyledswydd yn y teulu pryd y byddaiei dad oddicartref. Gofyd yw genym, nad ydys er hyny wedi gallu dysgu yn iawn oddiwrth ei rieni na'i gyfeillion, beth oedd y moddion union- gyrchol a arferwyd idd ei ddwyn i wybodaeth o'r gwirionedd fely maeyn yr Iesu. ' Cofiadwriaeth y Cyfiawn sydd fen- digedig' i bob Oristion, a pha un a olygom ein cydwladwr, gwrthddrych y cofiant hwn, fel Cristion, dysgawdwr, neu gydwladwr, ymddengys eì fod yn deilwngo sylw ac efelychiad ei genedl yn gyffredinol; ac er nad oedd ei holl gynlluniau wedi aeddfedu i weithred- iad, a'i alluoedd naturiolwedicael amser i ddlargelu eu hunain yn gwbl i olwg y byd, eto y mae digon yn aros idd ei anwylhau i bob dyn o deimlad. Ac un peth neillduol ag sydd yn gwneuthur ei hanes yn ddymynol i ní, oedd ei ymdrech, yn gystal â'i gyfadd- asrwydd i'r gorchwyl, er danfon yr ys- grythyrau i'n brodyr y Llydawiaid; ac er fod y gorchwyl wedi ei gymeryd mewn llaw, ac agos ei gyflawni, gan enwogion eraill, y mae genym le i feddwl ei fod wedi cyfranu llawer er gosod ar droed yr hyn a welir yn bres- ennol mewn gweithrediad; a phe bu- asai yn fyw, diau y gwnelsai ragor, mewn cydymdrech à y rhai a adawid i alaru y golled o'i ddoniau a'i gym- mwysderau er cydlafurio i ddwyn y dyben canmoladwy hwn oddiamgylch. Buddiol yw cymeryd golwg ar ygyf- ran o ddysgeidiaeth afeddiannai yn yr amser boreuol hwn o'i fywyd. Gosod- wyd ef yn ieuanc iawn dan addysg ofieiriad o'r eglwys sefydledig, yn nghymydogaeth ei dad, acefeawnaeth gynnydd bnan yn egwyddorion dech- reuol dysg. Fel yr oedd yn cynnyddu, symudwyd ef i ysgol ychydig oddi car- tref, lle y dysgodd lawer ar y Ladinaeg. Acar ei gynnydd mewn dysgeidiaeth awduraidd, symudwyd ef wedi hyny i ysgol y Parch. D. Peter, Caerfyrddin. Yma daethyn fuan yn enwog am fod yr ysgolhaig gorau yn mhlith ei gyfoedion ieuainc. Yr oedd wedi darllen cyfran helaetb o weithydd Yirgil, Horace,