Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BANER Y GROES. Riiif. 4. MAWRTÍI, 1858. Cyf. IV. NlD oes dim yn acliosi mwy o alar i'r Cristion gos* tyngedig, yr hwn sydd yn darllen gair Duw, ac yn tnyfyrio arno, yn ddiragfarn ; na'r ymraniadau crefyddol, sydd yn ftynnu mor helaetìi ym mhlith y sawl sydd yn proftesu yr un grefydd Gristionogol, ac yn dywedyd eu bod yn ddisgyblion i'r un Argiwydd Bendigedig. Y mae yr Ysgrythyr yn mynegu yn bendant y ddyledswydd sydd ar Gristionogion i garu eu gilydd, a pharhau yn un g< gymdeithas fawr weledig dros yr holl fyd. yn cymmeryd eu rheoli ym mhob man gan yr un rheolau efengylaidd. Ond yn lle hynny yr y'm yn eu gweled yn yr un wlad yn ymrannu yn bleidiau gwrthwynebol, yn ymenwi ar enwau dynion, ac yn barod bob amser i gnoi a thraflyngcu a dinoethi gwendidau eu gilydd yn ddiarbed. Os yw gair Duw yn wirionedd, y mae yn rhaid addef fod hyn yn hollol groes i feddwl ac ewyllys Duw. Er hynny, y mae dynion yn cyflawni y drygau hyn yn ddiofn; ac nid yn unig y maent yn eu cyflawni, ond y maent hefyd yn am- ddiftyn y cyflawniad o honynt, ar y sail eu bod trwy hynny yn dilyn annogaethau eu cydwybod. Y mae llawer o ddynion yn meddwl, os byddant yn gweithredu mewn pethau yn dwyn cyssylltiad â chrefydd, yn unol â'u cydwybod, eu bod felly yn ddieuog. Yn awr, y mae yn hawdd canfod, nad yw y cydwybodolrwydd gyda pha un y mae dyn yn dilyn rhyw ymddygiad neill- ìuol^ yn ddim prawf ynddo ei hun fod yr ymddygiad