Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BANER Y GROES. Rhif. 12. TACHWEDD, 1855. Cye. 1. Dyma'r fraint bennaf a ddichon dyn mewn ystyr dymhorol ei feddiannu, sef cael adeiladu tỳ i Dduw— porth y Nefoedd. Y mae'r gwaith hwn yn rhy ddyrchafedig i'w roddi yn nwylaw pob dyn—dymunai y Brenhin Dafydd yn fawr gael codi teml i'r Ior goruchel, ond ni oddefwyd iddo—yr oedd ei ddwylaw yn rhy lawn o waed i adeiladu preswylfa i'r Sanct a'r Cyfiawn. 0 gwyliwn ni, pan y cawn y cyfleus- dra o roddi carreg yn y gwaith, ar fod ein dwyiaw ni yn lân, a'n calonnau yn bur a d'iolchgar. Pan gyntaf y sylfaenwyd hen Eglwysi Cymru, oddeutu tri chan' mlynedd ar ddeg yn ol, fe gyssegrwyd y mannau trwy weddi ae ympryd. Am ddeugain niwrnod yr arosai Dewi, a Theilo, a Chadfan, a Thydecho, a Chynhafal, a Thyrnog, a llu eraill o'r saint ag y mae eu henwau yn uchel yn yr Églwysi,—yr arosent, meddaf, ar eu gliniau yn gweddiü, ac yn ymprydio yn y Uefydd hynny ag sydd yn cynnwys llwch ein hynafiaid. A phob blwyddyn rhagllaw, cedwid un o'r dyddiau nodedig hynny yn wyl er coffâu y mabsant, ac er d'iolch i Dduw am roddi yn ei fryd neillduo lle addas i'w addoli Ef, ac er gwedd'io am barhâd o'i ras a'i drugareddau. Aeth amser ymlaen, oerodd cariad llawer, llygrasant wyliau y plwyf, gan anghofio diben eu sefydliad —gadawsant i Dŷ Dduw adfeilio; a gwnaethant ymdrech egni'ol o'r diwedd i attal y rhoddion hynny a drefnodd ein hynafiaid duwiol ar fyned at gynhaliaeth Crefydd Crist o fewn y tir—Dim Degwm! Dim Treth Eglwys! Ond y mae rhyw adfywiad wedi cymmeryd lle yn ddiweddar—i'e, yn yr union adeg yr oedd raid wrtho. Mor wir yw'r ddiareb:—" Cyfyngder dyn, ëangder Duw." Gwelodd a gwel Ef yn dda roddi yng nghalonnau amryw o'i weision yma a thraw i gau adwyau Sion. Ac y mae'r gwaith wedi dechreu pan y dechreuwyd astudio a deall y wyddoniaeth adeiladawl. Beth ped adeiladasid hanner can' mlynedd yn ol y nifer a adeiladwyd wedi hynny, buasai conglau neillduol ein gwlacl yn llawn o ysguboriau gwladaidd, hollol anaddas i wasanaeth ac anrhydedd y Goruchaf. Yn awr, ynte, y maent yn cael eu cynllunio ar egwyddorion cywir; y mae pob earreg, ffenestr, a chwpl yn pregethu yn weledig i bawb o'r addolwŷr ffyddlawn wirioneddau Efr /1 Crist, " Y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hettyb o'r