Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

öTOaarci Qi?™ì[La[iQ?a(ûa, Rhif. 3.] MAWRTH, 1844. [Cyf. II. MEDDYLIAU DR. JOHN OWEN YN YMYL ANGEU. Mr. Gol.,—Gran fod angeu yn amgylchiad a'n cyferfydd oll yn anocheladwy, a bod y sylwadau gwcrtnfawr canlynol o eiddo Dr. J. Owen, yn tueddu i ddeffroi yr anystyriol, a chryfhau y meddwl gwan, gyda golwg ar yr amgylehiad pwysig hwn, dyinunwn iddynt gael lle yn y Drysorfa. E. (x. "Mae amrywiol o bethau yn angen- rheidiol mewn trefn i niallu ymdrechu ag angeu gyda sirioldeb, diysgogrwydd, a buddugoliaeth; ac yr wyf yn adna- bod llawer o ddynion duwiol, oddiffyg meddu y rhai hyn,ag ydynt wedi byw mewn caethiwed dros eu holl fywyd. "1. Gweithrediadau cryfion o eiddo ffydd, i roddi ein hysbrydoedd, ar eu hymadawiad, i'w ddwylaw ef, yr hwn sydd alluog i'w derbyn a'u cadw, a'u dwyn i gyflwr o orphwysdra a ded- wyddwch. " Mae yr enaid yn awr yn ymadael am byth â phob peth yn y byd hwn. Ni all un o'r gwrthddrychau a welodd ac a fwynhaodd â'i synwyrau corftbrol, gymmeryd un cam gydag ef i'r byd tragywyddol. Mae eí'e yn myned i mewn i iyàanweîedig, am yr hwn ni ŵyr ddim ond yr hyn a ddysgodd trwy ffydd. Ni ddychwelodd neb oddiwrth y meirw, i hysbysu i ni gyflwr y byd aralJ. Yn wir,ymddengys i Dduw yn fwriadol ei ddirgelu oddiwrthym, fel na byddai genym ddim hysbysrwydd am tlano, o leiaf, am ddull pethau ynddo, ond a roddir i ni trwy ddat- guddiad dwyfol. " Pa fodd y bydd hi arnom ar ol i lewygon angeu derfynu ? A gymmer diddymmd îe? A ydyw angeu yn ddinystr ar ein bodolaeth, fel na han- fodwnaeol marwolaeth? Tybia rhai hyn. Neíi a fydd yr enaid yn grwydr- iad—yn ýmweled â beddau, neu yn ymddangos yn achlysurol i drigolion y byd hwn? Mae rhai wedi dychym- mygu hyny. Neu a ydyw yn gyflwr o drueni cyffredinol—yn gyflwr yn yr hwn ni ellir mwynhaucysurnallawen- ydd ? fel y rhaid i'r rhai hyny dybied ei fod, y rhai ni allant amgyffred am un hapusrwydd, ond yr hyn a dderbyn- iant trwy eu synwyrau. Ond pa fath bynag yw cyflwr y byd anweledig, ni bydd yr enaid, ar ol ei ymadawiad, dan ei reolaeth ei hun, ond bydd yn hollol dan Iywodraeth un arall. Ni all un dyn, gan hyny, gyda thawelwch, an- turio i'r cyflwr hwn, ond yn y gweith- rediad o'r ffydd hono, yr hon a'i gallu- oga i roi ei enaid, ar ei ymadawiad, i law Duw, yr hwn yn unig a ddichon ei dderbyn, a'i osod mewn cyflwr o lon- yddwch a hapusrwydd. Fel hyn y dywed apostol, 'Mi a wn i bwy y cred- ais, a'i fod yn abl i gadw yr hyn a roddais ato.' Dyraa weithred fuddugol olaf ffydd, yn yr hon y gorchfyga hi y gelyn diweddaf, sef angeu ei hun. Y pryd hwn dywed yr enaid wrtho ei hun, ' Yr ydwyt yn awr yn yraadael ag am- ser, ac yn myned i dragywyddoldeb. Mae pob peth o'th amgyích yn ymadael fel cysgodau, a diflanant yu mhen ychydig: mae y pethau yr ydwyt yn myned i'w plith, hyd yn hyn yn an- weledig; yn awr, gyda thawelwch a hyder, rho dy hun i allu penarglwydd- iaethol, gras, gwirionedd, a ffyddlondeb Duw, a thi a gei orphwysdra a hedd- wch.' "Ond Iesu Grist yw'r hwn sydd yn uniongyrchol yn derbyn eneidiau cred- inwyr, fel y gwelwn oddiwrth amgylch- iad Stephen ; a phwy ag sydd yn credu ynddo, a oíha roddi ei ysbryd, ar ei