Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Khif. 8] AWST, 1844. ÍCyf. II. COFIANT MR. THOMAS MARTIN, ABERGARW, GER PE.\YBO.Vf-AR-OGWY, MORGANWG. Y siae bywyd rhai dynion yn y byd hwn yn fwy cyhoeddus, ac, o herwydd hJ'ny» yn *wy pwysig na'u gilydd. Y rheswni o hyn yw, fbd rhui yn troi mewn eylchoedd helaethach nà'u gil- ydd; ue, o herwydd hyny, eu bod yn fwy amlwg, a'u dyJanwad yn y bỳd a'r eglwys, er daiòni neu niwed, yn cyrhaeddyd yn mhellach. Mewn cyssylltiad â hyn, mae vn wiw sylwi, fod deiliad parchus y Cofiant hwn, dros hir amser, yn dra adna- byddus i laweroedd, yn neillduol yn ardaloedd poblog Penybont a ChastelJ- nedd. Yr oedd ei alwedigaeth, fel panwr a lliwydd cyfrifol, a'i drafodaeth helaeth â'r wlad yn y íîbrdd hono dros nwyddi raeithion, yn peri ei fod yn dra adnabyddus i'r cytfredin fel cel- íyddydwr; acyroedd ei hir-drigiad yn eglwys Dduw, a'i weinyddiad hirfài'th or swydd ddiaconaidd yn rnhalasau peion, yn ei wneuthur vn aduabyddus i lawer o weiuidogion a phobl fel crefyddwr. Cafodd ei alw i winllan Crist yn 16 °™> tan weinidogaeth ddenol y diw- eddar Barch. Samuel Price, Penybont. ■Harhaodd yn aelod defnyddiol o'r eglwys Gynnulleidfuol, tan ofal y gwr da hwnw a'i ganJyniedydd, y presennol W. Jones, Penybont, hyd awr ei farw- 0,aeth, sef yspaid 59 o flwyddi; a nyderir ei fod yn awr fel Danìel, " yn seryll yn ei ran." Oweinyddodd swydd diacon, yn vr eglwys rag-grybwylledig, yn ffyddìon ö'"os amryw flwyddi; ac wedi iddo symud o Benybont i Abergarw i fvw, cafodd ei ddewis, ar farwolaeth un o'r diaconiaid, i weini y swydd honoyn yr eglwys GynnulleidfaoJ yn Mryny- menyn, tan of'al yr un gweinidog, a pharhaodd i'w gweini hyd angeu. O'r hen aelodau ag oeddynt yn cyd- eistedd gydag ef tan weinidogaeth Mr. Price, ac yn uno yngalwad y gwein- idog presennol, nid oes eithr pedwar yn unig yn f'yw; dau yn Mbenybont, a dau yn Mrynymenyn, o ba rai ei weddw ef yw un. Mor gyfnewidiol y w pob peth dan haul! Mor sylweddoí y w pob peth anweledig! Yr oedd deiliad y Coflaní hwn yn ddarîlenydd mawr, ac yn gofiadur enwog. Yr oedd yn fwy cyfarwydd na'r cyfiredin o grefyddwyr jt oes mewn hanesyddiaeth wladoJ ae eg- lwysig. Yroeddjheí'yd, yn feddiannol ar barodrwydd a hyawdledd i adrodd yr hyn a gofiai. Cafodd Uawer ddi- í'yrwch ac adeiladaeth wrth wrando arno yn arllwys, o arnguddfa helaeth ei gof, v pethau buddiol a rhyfedd a welodd, a glywodd, ac y darllenodd am danynt. " Heblaw hanesyddiaeth wladol aceglwysig, yroedd efè yn fwy cyfarwydd na'Jlaweroedd yn ei FibJ, ac yngweithion duwinyddion cynnar a diweddar. Yr oedd ganddo gryn lawer o Jyfrau crefyddol, athrawiaethol, ac yniarferiadol; acni chadwai hwynt, fel y gwna gormod o broffeswyr, yn unig f'eJ addurniadau yn y tŷ, eithr darllenai hwynt vn fynçch, a hoffai yn fawr i siarad am d*an"ynt, ac adrodd eu cyn- nwysiad. a . Bendithiwyd ein cyfadl a thri o 22