Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WW (àTOÎMS^&^ Rhif. 9.] MEDI, 1844. [Cyf. II. PREGETH. Mr. Gol.,—Wrth droi dalenau llyfr a rodd- wyd i mi gan y Parch. T. Williams, Bethesda, daethum o hyd i bapuryn yn cynnwys sylwedd un o'i bregethau, yn ei law ysgrif ef ei hunan, a phenderfynais ei "hanfon i chwi, a byddaf ddi- olchgar i chwi am le iddi yn rhyw gongl o'ch Misolyn clodwiw. M. Mobüan. Rhuf. 6. 21. " Pa ffrwyth gan hyny oedd i chwi y pryd hyny o'r pethau y mae amoeh yr awr hon gywilydd o'u plegid? canys diwedd y pethau hyny y w marwolaeth." Mae yn deilwng o ein sylw, na bu erioed, nad oes yn awr, ac na bydd byth, ddim ond y goîied o fyw mewn pechod ac annuwioldeb. Mae yn wir, nad yn yr un pechod mae pawb yn ymbleseru. Mae rhai yn gybyddion; ereill yn feddwon; ereill yn buteinwyr: ond y ffrwyth a fedir gan y rhai fyddo byw nes marw yn y pethau hyn a'u cyffel- yh, fydd bythol wae, wedi myned dros y terfyn i fyd o sylwedd. Sylwaf— I. Pod gwasanaethpechodyn wasan- anaeth diennill. Pa ffrwyth oedd i chwi? 1. Pa ffrwyth sydd i'r cybydd o'i lafur caled, yr hwn, gan ei awydd i ymgyfoethogi, sydd yn methu cysgu y nos? dim ondgolud anwadal na weina un cysur iddo yn ei fynedfa i fyd arall. Ac er iddo, fe ddichon, fel y dywedir, ddyfod o ddim i lawer, ac mai iaith ei gydnabod am dano yw, ei fod ef yn gyfoethog iawn, beth, er hyny? mae dydd digofaint o'n blaen, ac ni thycia cyfoeth yn y .dydd hwnw. Diar. 11. 4. 2. Pa ffrwyth sydd i'r godinebwr, yx hwn sydd yn gwylied pob cyfle am le digontywyll i gyflawni ei flìeidd-dra? dim ond hyfrydwch anifeilaidd dros funud awr; ofn rhag i'w gyfla^Tiiadau flìaidd ddyfod i'r golwg; arswyd a dychryn calon, wrth feddwl am wyn- ebu Duw mewn barn; a pha nesaf mae y dyn hwnw yn dod i'r glyn tywyll, sef marw, trjnmaf i gyd mae yn myned ar ei deimladau; a'r geiriau lìyny fel pe bai miloedd o gleddyfau yn try wanu ei gydwybod ar unwaith, Puteinwyr a godinebwyr a farna Duw Heb. 13.4. 3. Pa ffrwyth sydd i'r meddwyn? Nid oes neb yn mysg un dosparth o ddynion yn slafio mwy arno ei hunan na'r meddwyn: mae yn ymlenwi â'r diodydd cedyrn, nes ydyw yn waeth ei lun nâ'r anifail aflanaf yn mysg y cre- aduriaid direswm. Esgeulusa ei alwad; gwastraffa ei feddiannau; dwg ei hun- an a'u deulu i afael tlodi. Selia ei ddamnedigaeth, a chaua ei hunan o'r nefoedd. 1 Cor. 6. 10. 0 ffrwyth tlawd í 4. Pa ffrwyth sydd i ragrithiwr sydd yn eglwys Dduw ? Mae hwn, er ei fod ef yn elwa mewn rhyw ystyr, etto yn gwbl amddifad o'r un peth angenrheid- ìol; ac am hyny er ei fod yn nhŷ Dduw, ac yn mhlith ei blant, etto bydd yn druenus pan dyno Duw ei enaid ef allan, heb neb i wi*andaw ar ei gwyn yn nydd ei gyfyngder. Gwel Job 27. 8,9. II, Ymddygiad y duwioüon wrth ed- rych ar eu hymddygiadau pechadwus} sef cywílyddio ó'uplegid. Nid oes achos i ni gywilyddio am ddim ond ein pechodau, oblegid cywil- ydd pobloedd yw eu pechod. Nid yw tlodí mewn amgylchiadau naturiol, yn gywilydd i neb. Bu yr Iachawdwr mawr yn dlawd, ac heb le i roddi ei ben i lawr. Nid yw bod yn drallodedig, yn gy wilydd i neb; o herwydd bu rhai o'r dynion goreu yn y.byd felly yn mhob 25