Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 27.] MAWRTH, 1845. [Cyf. III. COFIANT Y PARCH. THOMAS WILLIAMS, BETHESDA, BRO MORGANWG. Diaü fod hanes bywydau y saint ym- adawedig yn tued'du i fod yn llesiol a defuyddiol i ni sydd ar ol, am fod nerth dwyfol ras i'w ganfod yn nghyfnewid- iad eu cyfiwr, a symudiad yr enaid o dir colledigaeth i deyrnas anwyl Fab Duw—o dir marwolaeth i afael bywyd. Hefyd, yn eu taith trwy anialwch dyrus y byd hwn, gwelir mawr a thyner ofal ein Duw am danynt, yn eu cynnal a'u diogelu, yngwyne'b miloedd a mwy o beryglon, a rhinwedd anfeidrol y gwaed a'u golchodd oddiwrth halog- rwydd, gan eu c^onhwyso i gymmanfa y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifen- wyd yn y nefoedd, lle na ddaw gofid, trallod, poen, na gwae i'w cyfarfod byth mwy. Hefyd, gwelir yn hanes eu bywyd, eu sel a'u hymdrech diflino gydag achos Iesu Grist, er helaethu terfynau teyrnas yr efengyl yn y byd; ac yn eu hymdrechion o blaid achos y Gwaredwr mawr, ceir esiampl deilwng o'i hefelychu genym ninau y rhai yd- ym yn eu dilyn tua'r byd mawr tragy- wyddol. Pell ydwyf o feddwl fod gwrthddrych y Cofiant hwn yn ber- ffaith ; ond i'r graddau ag y dilynodd efe y Rhagflaenor, yr hwn oedd yn ber- ffaith, anífaeledig, a digoll, ymdrechwn ninnau i fod yn debyg iddo. Ganwyd Mr. Willîams ynTrerhedyn, yn mhlwyf Pendeubvyn, yn agos i'r Bontfaen, swydd Forganwg, Mawrth 1> 1761. Enwau ei rieni oedd Richard a Margaret Williams, amaethwyr cyf- nfol yn y plwyf uchod. Nid wyf yn gwybod dim o'u hanes hwy, ond eu bod yn gysurus o ran eu sefylîfa yn y byd, ac yn gyfrifol yn y gymmydogaeth'lle yr oeddent yn" preswỳlio." Bu iddynt bedwar o blant, sef tri mab ac unferch; ac^mae'n debyg, mai yr ieuengaf o'r meibion oedd gwrthddrych einCofiant. Bernir mai y lle diweddaf y buont yn byw, oedd y Dyffryn Bach, yn mhlwyf Pendeulwyn. Dygasant eu plant i fynu yn anrhydeddus; ond, o'r diwedd, syrthiasant ill dau mewn oedran teg i'r bedd, y tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw, gau adael perthynasau a chyfeíll- ion Uiosog i alaru ar eu hol; ac nid oes, erbyn heddyw, ddim un o'r plant yn fyw. Yn awr, cawn ddychwelyd i fwrw golwg ar wrthddrycìi ein Cofiant yn moreuddydd ei oes. Yr oedd rhywbèth ynddo ag oedd yn ei wneuthur yn wa- hanol i bawb ereill o blant y gymmyd- ogaeth, pan yn blentyn. Pan byddai plant eraill yn ymdroi yn eu chwareu- on, ac yn ymestyn at gampau pechad- adurus a dinystriol, byddai y bachgen Thomas yn ymbleseru mewn diwyd ymarfer â moddion gwybodaeth, yn neillduol yn chwilio yr ysgrythyrau santaidd; a phan nad oedd ond bychan, teithiai filldix*oedd wrtho ei hunan i wrando gweision Duw yn cyhoeddi cen~ adwri y cymmod, sef iachawdwriaeth trwy Grist i bwy bynag a'i derbyniai hi, ar gynnygiad diffuant yr efengyl dragywyddol. Ië, yr oedd ei ddiwyd- rwydd a'i ymdrech am bethau enaid a byd arall, a'i sobrwydd mawrynmhob cymdeithas, wedi ei wnetithur yn des- tun sylw y gymmydogaeth, pan oedd o 8 i 10 mlẁydd oed; a mynych y dy- wedai dynion goreu y gymmyd- ogaeth am dano, nad oedd ei dymer ef ond byr; neu yntau, fod gan yr Ar- glwydd ryw waith neillduol i'w gyf-