Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

wm Qt?raíLiS[l3)?&5)i!, Rhif. 32.] AWST, 1845. [Cyf. III. SYLWADAÜ AR Y NAWFED BENNOD O DANIEL, GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. ROBERTS, LLANBRYNMAIR. Cawn yma fod Daniel yn deall fod y 70 blynyddau y gaethglud yn agos a dibenu, ac am byny mae yn ymroddi â'i holl galon i geisio Duw mewn gweddi. Wrth sylwi ar 2 Bren. 24 a 25, canfydd- wn fod Nebuchodonosor wedi cymmeryd Jerusalem dair gwaith ; yn gyntaf, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoicim, pan gafodd Daniel a'i dri chyfaill eu caethgludo. Gwrthryfelodd Jehoiacim yn erbyn y Baby- loniaid, a chafodd ei ladd yn y flwyddyn 11 o'i lywodraeth, a'i gladdu yn ddiau mewn modd gwarthus iawn, Jer. 22. Ar hyn gwnawd ei fab Joacin, neu Jehoiacim, yn frenin, yr hwn, debygid, yn ol teyrnasu tri mis a ymostyngodd i Nebuchodonosor; ar hyn caethgludwyd llawer o'r Iuddewon a'u prif dywysogion, a'r gofaint, a'r seiri, yng- hyd â'r prophwyd Ezeciel i Babilon ; a thyma yr ail gaethglud. Nebuchodonosor a wnaeth Mattaniah, mab ieuangaf Josiah, yn frenin, ac a drodd ei enw yn Sedeciah ; ond gwrthryfelodd Sedeciah hefyd yn erbyn v Babiloniaid, gan wneuthur cyngrair â Pharaoh Hophra, brenin yr Aipht. Yn ganlynol, ymosododd Nebuchodonosor ar Jerusalem y drydedd waith, ac a'i cymmer- odd yn y flwyddyn 11 o deyrnasiad Sede- ciali, pan lwyr ddinysttiwyd y ddinas, ac y Hosgwyd y deml. Yn awr y mae y 70 o flynyddoedd y gaethglud yn dechreu yn nghymmeriad cyntaf Jerusalem, yn y flwyddyn cyn Crist 606, ac yn diweddu pan roddwyd gorchymyn am ryddhad yr Iuddewon gan Cyrus yn y flwyddyn cyn Crist 536. Pan yr oedd Daniel yn gweddio y weddi 'ion yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad I>arius y Mediad yn Babylon, nid oedd ond dwy 0»r 7q blynyddoedd heb eu cyflawni. Rhoddodd Duw iddo atebiad graslawn. Gwnaeth iddo ddeall, yn ddiau, am yr ymwared a fyddai i'r Iuddewon yn mhen dwy flynedd, ac amlygodd iddo hefyd yr hyn a loddai fwy o foddlonrwydd iddo, sef amser dyibdiad, a gwaith rhyfeddol y Messiah. " Deng wythnos a thrugain a derfynwyd ar dy Bobl, ac ar dy ddinas santaidd, i ddibenu camwedd, ac i selio pechodau ac i wneuthur cymmod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragywyddol, ac i selio'r weledigaeth, a'r brophwydoliaeth, ac i eneinio y santeiddiolaf. Gwybydd, gan hyny, a deall, y bydd o fynediad y gor- chymyn allan am adeiladu Jerusalem hyd y blaenor, Messiah, saith wythnos, a dwy wythnos a thrugain, a'r heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewn amseroedd blinion. Ac wedi dwy wythnos a thrugain y lleddir y Messiah, ond nid o'i achos eî hun : a phobl y Tywysog, yrhwn a ddaw, a ddinystria y ddinas a'r cyssegr, a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinystr anrheithiol. Ac efe a sicrha'r cyfammod â Uawer dros un wyth- nos; ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i'r aberth a'r bwyd-offrwm beidio. A thrwy luoedd flîaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y dyben terfynedig ar yr an- rheithiedig." Ychydig yn gyntaf am yr yspaid gosod- edig, ac yn ail am y gwaith rhyfeddol i gael ei gyflawni yn niwedd yr yspaid. Yr ydym yn gweled mai 70 wythnos, »ef (gan roddi blwyddyn am ddiwrnod) 490 o flynyddoedd a fyddai o roddiad y gorchymyn i adferu Jerusalem. hyd laddiad y Messiah. Yn Uyfr Ezra yr ydym yn cael hanes ant bedwar gorchymyn i adeiladu ac adferu Jerusalem------Y cyntaf gan Cyrus, yn y flwyddyn o oes y byd 3473. Ezra l.------Yr 22