Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gfâ73S)a?a (àTOÖÌÍLSllDîíi^ Rhif. 33.] MEDI, 1845. [Cyf. III. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. LEWIS, D.D., CAESNEWYDD-AR-WYSG. " Marw a wnelwyf o farwolaeth yr union. a bydd- ed fy niwedd feì yr eiddo yntaü."—Nüm. 23. 10.* Y ehai hyn ydynt eiriau Balaam, yr hwn yr anfonasai Balac am dano i felldithio Israel, yr hyn, yn wir, yr ymdrechodd efe yn ofer ei wneuthur: mwy oedd yr hwn oedd o'u tu na'r rhai oll oedd i'w herbyn. Yr oedd yr Israeliaid yn bobl briodol Duw; ac er iddo oddef caledi i ddyfod arnynt, etto rhoddai iddynt brofion yn aml o'i gariad atynt, a phàrhaodri i'w hymgeleddu yn eu holl drallodau ; 'ie, efe a ddangosodd ei allu drostynt mor bell a gwneuthur gwyrthiau, megis, pan oedd Pharaoh a'i lu yn eu hym- lid, y rhanodd efe y dyfroedd, y gwnaeth y môr yn dir sych i'r Israeliaid, ac y claddodd efe eu gelynion yn y tonau. Hefyd, pan rwgnachasant o eisiau bara, efe, mewn modd gwyrthiol, a ddygodd sofi ieir a man- na iddynt; efe hefyd a ymladdodd eu rhyfeloedd, ac a roddodd iddynt fuddugol- ìaeth ar freninoedd cryfion, a gwnaeth lawero bethau rhyfedd ereilliddynt trwy y rhai y dangosodd "efe ei aliu mawr a*i dru- garedd. Yn awr, gwersyllai yr Israeliaid yn ngwastadedd Moab, ac o herwydd y gwelai Balac eu bod mor lliosog, ac i Dduw eu bendithio, efe aofnai yn fawr, a meddyliai mai ofer fuasai iddo godi i'w herbyn nes y melldithid hwynt. Tybiai y gallasid gwneu- thur hyn yn hâwdd ddim ond twyllwobrwyo Balaam, yr hwn y credai yn gadarn a allai wneuthur hyny, oblegid, meddai efe, " Mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fen- dithiech, a melldigedig* fydd yr hwn a felltiithieeh," pen. 22. 6. Ond camgym- meriad truenus oedd hyn ; canys, gan fod yn Balaam awydd am y wobr, bu yn ffydd- *Yn neehreu y bregeth yn Rhifyn Gor., gan na roddwyd y testun i lawr, dymunìr ar y darlienydd ysgrifenu " Act. 13. 43." oflaen y bregeth hono. lon, a gwnaeth oll a allai i'w melldithio, er hyny yr Arglwydd a'u bendithiodd er ei waethaf ef. Gallasai yr Arglwydd ei rwystro i erynyg y fath orchwyl: galíasai yr angel ei ladd ef ar y ffordd ; ond goddefodd iddo fyned, fel y gallasai yr Arglwydd ddangos y gallasai efe droi hyd yn oed melldithion yn fendithion, ac mai ofer oedd i ddyn ym- rysoni â Duw. O henvydd pa fwyaf yr ymdrechent hwy felldithio Israel, mwyaf y bendithiai Duw hwynt; a chredwyf, pa fwyaf y gwnelai y drygionus, yngwahanol oesau y byd, ddiystyru a mellditliio pobl Dduw, mwyaf anwyl" fyddent gan Dduw, a mwyaf y bendithiai efe hwynt. Yn awr, wedi i Ralaam gynyg y gorchwyl gynnifer o weithiau, ac mewn cynnifer o leoedd, daw i wybod hyn trwy brofiad; îe, wedi iddo gynyg hyny unwaith, efe a ddygodd air i Balac, adywedodd, Pa foddy rhegaf yr hwn ni ìegodd Duw ? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddioddyr Argl-wydd? Yn awrr gwel Balaam fod Duw gydag Israel, ei fod fel mur o dàn o'u hamgylch, ac na lwydda un gelyn i'w herbyn ; efe a wel eu rhifedi, ac a ddywed, Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel ? Mae yn ystyried eu diogelwch a'u hapus rwydd, ac mewn modd taer dymuna (yr hyn, dybiwyf, a gynwysir yn y testun) gael bod yn eu mysg. O herwydd efe, yn sicr, a gydnabyddodd eu bodyn genedl gyfiawn, ac yn anwyliaid y nefoedd, am hyny dy- rnunai farwolaetli yr uniawn. Yn y geiriau hyn, fel mewn llawer o rai ereill, cawn mai marwolaethyw diweddpob dyn ; yr uniawn yn gystal â'r drrgionus. Ond arwe'mia Balaam ni i gredu fod gwa- haniaeth raawr rhwng marwolaeth y naill a marwolaeth y llaü, oblegid efe yn ddi- frifol a ddymuna farwolaeth yr uniawn. 25