Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA GyMÜLLEIDFAOL, ÌIhif. 69.] MÈDI, 1048. [Cyf. VI. U OES YR YDYM YX BYW YIDDI. ' Yr oes ag yr ydym yn byẃ ynddi,' ydyw y testun ag y meddyliaf sylwi ychydig arno drwy gyfrwng y Drysorfji yn bie- senoi. Y mae amryw oesau wedi bod yn y byd. 1. Byr oes Adda; ýrhon a ddechreuodd yn nghanol blodaa a rhasoriaethau Parad- wj's, pan yr oedd y dydd heb ei gysgodion cymylog; pan yr oedd y rhosyn prydfeith heb fod yn ddreinen bigog; y galon heb drallodion; a'r corff heb yr un gwaew na phoen; mewn gair, yr oedd yr oes yn llawn o beroriaeth bur, heb y prudd-der ljeiaf, yn mha un yr oedd y cedar, a'r ffrydiau, a choed ÿ ddaear, fel gwahanol dánau telyn, yn canu peroriaeth i glusíiau y dyn, ac yn canu addfwynder yh nghalon dyn. Aeth yr oes ddedwydd hon heibio, a chanlynwyd hi gan gysgodau oerllyd, dechreuad haulbellafnod y ddaear, yn mha un y rhosyn a flodeuai y dydd o'r blaen yn Mharadwys, a wywodd yn Haw yr hon a'i casglodd ; a'r gwyntoedd, a'r dyfroedd, a ffurfwaith y greadigaeth a ddechreuodd eu Miserere gwynfanus, pa un hyd yn hyn nid yw wedi ei thawelu. Ý Cerub tanllyd a amddiffynai Baradwys oddiwrth bob dyfodfa i weddHlion nychlyd Eden; ac Adda ac Efa a aethant ymaith o dan weinyddiad y cleddyf tanllyd ag oedd yn melltenu drostynt, i ddyfrhau y ddaear ddiffrwyth â'u dagrau, a'i ffrwythloni â chwyseu talcenau. 2. Oes Cain. Yn hon yrychwanegwyd y trosedd o fwrddrad at flinfyd y felldith, ac euogrwydd y brawdladdiad a adawodd ei ol ar y ddaear a droediai, a'i nod ar ei dalcen. Cosbedigaeth dyn ar y ddaear, a deiuilwyd fel adlamiad o bechod dyn yn Eden; a'r holl greaduriad a ddysgasaut 33 (yr hyn sydd gan amryw greaduriaid eto í ddysgu,) mai bod mewn gelyniaeth â Duw yvv bod mewn rhyfel â'r bydysawd, a'r oll y mae yn gynnwys; 3. Oes Noah. Drygioni dyn a chyd- ddygiad Duw yn awr o, gyrhaeddasant y nod. Ar y dydd y rhybuddiwyd Noah o ddyfodiad y diluw, ac y dechreuodol yntau rybuddio eraill, daearyddwyr a brof- ent i foddlònrwydd yr oes, nad oedd dígoa o ddyfioedd yn y mor i orchuddio y ddaear,1 a seryddion cynddiluwiaidd a eglurent, er boddíonrwydd eu mawrygwyr athronyddol, nad allai deddf dystyrchiad, neu allu pla- nedawl gyfartal weithredu i aflonyddu cymedroìeddau perthynasol y tir a'r dwfr. Ac os oedd yr oes hon yn oes o argoeledd,- yr oedd hefyd yn oes o brawf. TJn di- wrnod, cyfodai yr hauí yr ün fath ag yr oedd wedi cyfodi ar ddiwrnodau eraill : gwlawiai yn drwm, ond yr oedd wedi gwneyd felly o'r blaen; a'r diofaí a'r coeg- aidd a frawychasant am eiliad, wrth weíed. yr amgyichiad rhagrybuddiol, ond o'c diwedd gwawdient yn fwy calonog, a bloeddient, 'yn mlaen â'r dawns.' Dech- reuai yr afonydd lifo; ond y gloddestwyr a gynnygient dim ond yn unig un gibli arall. Swn ceuol o holltiedig a rhwygedig ddaeár a glywyd, a'r febygiad a ddangos- odd ei hun mewn wynebau tywyll, nad oedd pob peth yn dda. Yr ymffrostwyr a ymlouyddent; y seryddion a'r gwybod- aethwyr a ddechreuasant adchwiho eu cyfrifìadau, ond erbyn eu bod wedi gwneyd i fynu eü meddyliau, y dwfr, yn ol y ìhybudd a ddechreuodd orchuddio y dy- ffrynoedd ; cilient i aeliau y bryniau, ond trwy gyd-rwygiad ffynhonau y dyfnder, gorchuddiwyd y mynyddoedd uchaf â