Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

»«?a ^Müäaaî^a, Rhif. 1.] lONAWR, 1843. [Cyf. I. CYNNULLEIDFAOLIAETH. Y mab crefyddau y byd, fel y gvvyr y cytfredinolrwydd o drigolion ein gwlad ni, yn anniruadwy liosog ac amrywiog. Yn eu mysg, er hyny, ni bu, ac nid oes, hebiaw crefydd natur, ond un yn unig o sefydliad neu osodiad dwyfol ; sef, Iuddewaeth gynt, a Christionogaeth yn awr. Diddymwyd y flaenaf gan yr Arglwydd Iesu Grist, er ys agos i bed- war cant ar bymtheg o flynyddoedd yn ol; a sefydlwyd yr olaf (yr hon sy'n cymmerydei henw oddiwrthei Hawd- wr goruchel, ac i b.irhau mewn grym nc awdurdod hyd ddiwedd amser) yn ei lle. Unig safon (stattífor<í)Cristionogaeth bur, yw yr Ysgrythyrau santaidd ; yn neillduol y Testameut Newydd. A phe buasai ei harddelwyr lliosog yn glynu wrth hwn yn unig, ac o'r un olygiadau yn mherthynas i'w wir ystyr, ni fuasai nac ymraniadau, na phleidiau yn eu plith, eithr " pawb yn cerdded* wrth yr un rheol, ac yn synied yr un peth." Ond nid oedd hyn, yn llythyrcnol, yn ddisgwyliadwy, nac, ysgatfydd, yn fuddiol; gan nad yw yn ymddangos y gallasai fod yn gyson â'r fuchedd anmherftaith bresennol, nac, ychwaith, mor ffafriol i ysbryd ymchwil; ac, hefyd, i awydd ac ymdrech canmolad- wy i ragori y naill ar y llall, mewn gwybodaeth a phob rhinwedd. Her- wydd hyn, yr ydym yn cael arddelwyr Cristionogaeth yn amrywio yn fawr oddiwrth eu gilydd yn eu golygiadau ; ac, yn fynych, yn cael eu gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd, trwy amrywiol enwau, y rhai a ddynodant eu golyg- iadau gwahanol gyda golwgar bynciau athrawiaethol, ordinhadau a defodau crefyddol, ynghyd â threfn a disgybl- oeth eglwysig. Gyda golwg ar y blaenaf, y prif enwau ydynt, Undod- iaid a Thrindodiaid, Caìfiniaid ac Ar- miniaid, uchel ac isel; a chyda golwg ar yr olaf, y prif-wahaniaethau neu enwadau, ydynt Esgobyddion Pabaidd a Phrotestanaidd, yr Henuriadyddion Ymneillduol a Threfnyddol, a'r Cyn- nulleidfaolion Aunibynol. Gan mai "TrysorfaGynnulleidfaol" y gelwir y Cyhoeddiad hwn, a chan mai at wasanaeth yr olaf o'r enwadau uchod yn benaf y bwriedir ef, ac mai yn eu mysg hwynt yn benaf y gellir disgwyl y bydd ei gylch-rediad, bernir yn addas, ar ei gychwyniad, i roddi byr-ddarluniad o egwyddorion, trefn, a disgyblaeth eglwysig y rhag-ddy- wededig enwad ; yr hyn nid ellir ei wneud yn well nag yn ngeiriau y Mynegiad y cytunwyd arno yn Nghyf- arfod Cyffredinol yr Undeb Cynnull- eidfaol, yr hwn a gynhaliwyd yn Nghaerludd, Mai yr lleg, 1832; yr hwn Fynegiad a fwriadwyd, nid i fod yn safon, neu reol sefydlog ffydd ac ymarferiad y blaid, ond yn Hysbysiad cyhoeddus o'r hyn a gredir ac a ymar- íerir yn eu plith, yn gyson a chyffred- inol: a'r hwn sydîl fel y caulyn— I. Gyda golwg ar egwyddorion crefydd, credant, yn 1. Fod Ysgrythyrau yr Hen Des- tamenta dderbynir gan yr Iuddewon, a Llyfrau'rTestament Newydd, y rhai a dderbyniwyd gan y Cristionogion cyntefig oddiwrth yr efengyíwyr a'r apostolion, ynysbrydoledig,:tc oddwy- fol awdurdod : a bod yn ddyledus ym- gynghori â'r ysgriteniadau hyn, yn yr