Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

«« OT^lL3^£Ä Rhif. 4.] EBRILL, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. PEREGRINE PHILIPS, HWLFFORDD, PEMFRO. Ganwyd y gwr enwog a defnyddiol hwn yn y flwyddyn 1623, yn Anibra, yn Swydd Benfro, lle yr oedd ei dad, yr hwn oedd yn un o'r Purwyr, ac yn ddyoddefydd herwydd gwrthod darllen Llyfr y Chwareuyddiaethau, yn gwein- idogaethu. Derbyniodd Mr. Philips ei addysg boreuol yn yr ysgol gyhoeddus, yn HwlfFordd. Symudodd oddi yno i Brampton Bryan, yn Swydd Hereford, o tan olygiad caplan Syr Edward Harley; ac oddiyno eilwaith, tan ofal v Dr. Thomas, wedi hyny Ésgob Ty Ddewi. Wedi gadael Dr. Thomas, aeth i Rydychen, lle yr arosodd nes i'r rhyfel cartrefol ei orfodi i encilio. Ar ol gadael y Brifysgol, sefydlodd gwrthddrych ein sylw yn Nghydweli, yn Sìr Gaerfyrddin, lle'y gwasanaeth- odd dros dymor mewn pethau santaidd, fel curad i'w ewythr, y Parch. Dr. Colins. Symudodd oddiyno i'w fyw- iolaeth ei hun, yr hon ydoedd yn werth o bedwar ugain punt i bedwar ugain a deg yny flwyddyn,a'r hon a fwynhaodd efe dros amryw flynyddoedd, sef Llan~ gwm Ffresthorp, yn Swydd Bemfro. Yr oedd gwrthddrych y cofiant hwn yn wr o alluoedd anghyffredin. Tynodd sylw amryw o foneddigion y Sîr, y rhai a ystyrient y fywioliaeth yr oedd ynddi islaw ei deilyngdod, ac a feddyliasant ei ddyrchafu i un uwch. Yrn mhlith ei fawrygwyr, yr oedd Syr John Owen, Syr Roger Lort, a Syr John Meyric. Trwy offerynoliaeth y pendefigion hyn, trosglwyddwyd gwrthddrych ein sylw o Ffresthorp i Mounton, gerllaw Pem- fro ; ac oddiyno i eglwys Fair a Coshe- ton, y rhai a gyfrifid yn fywiolaethau rhagorol—yn mhlith y goreu yn y Sîr. Wedi ei ddyrchafu, ni laesodd yn ei lafur a'i ymdrech i wneuthur daioni. Pregethai dair gwaith bob Sabbath : a chyfrifid ef y pregethwr goraf yn yr holl wlad hono. Yn yr amser yr oedd 01iver Cromwell yn gwarchae ar Bemfro, siciheir fod bywyd Mr. Philips yn fynych mewn enbydrwydd. Ond, er hyn oll, cafodd ei ddiogelu mewn modd rhyfeddol, a pharhaodd i lafurio yn mhlith pobl ei ofal, er fod y pelenau, weithiau, yn chwifiaw oddiamgylch ei ben. 01iver, wedi clywed am enwogrwydd Mr. Philips fel pregethwr, a ddanfon- odd am dano, i bregethu yn un o'i eg- lwysi, o flaen swyddogion ei fyddin ef. Cydsyniodd Mr. Phiíips â chais y LÍywydd ; a rhoddodd y dull y cyf- lawnodd efe ei weinidogaeth foddlon- rwydd neillduol i 01iver, yr hwn, mewn canlyniad, a'i ffafriodd ef yn fawr. Gan fod amryw o longau rhyfel wedi eu bwriadu i ddarostwng yr Iwerddon. i ufudd-dod, yn gorwedd, y pryd hwn, yn hafan Milford, cyn iddynt fordwyo, dywedir i Cromwelí fynu Mr. Philips i weddio ar fwrdd pob un o honynt. Heblaw hyny, dy wedir iddo, ar wahanol gyfleusderau bregethu yn Gymraeg ac yn Saesoneg bron yn mhob eglwys yn y Sìr ; ac, hefyd, yn fynych o flaen y barnwyr yn Mrawdlysoedd Aberteifi, Caerfyrddìn, a Hwlffordd. Gan fod Mr. Philips y pryd hwnw yn un o'r dirprwywyr gosodedig, i ed- rych i mewn i deilyngdod ac addas- rwydd gweinidogion plwyfol, dywedir idd'o fod yn offeryn i gadw llawer o'r rhai ffyddlon yn y meddiant o'u lle- oedd ; ond, er hyny, ar yr Adferiad, cafodd ei droi allan o'i fywiolaeth ei hun, a'i orfodi i encilio i dyddyn bychan o'r enw Dredgemanhill, perchenogaeth 10