Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 6.] MEHEFIN, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. HENRY MORYS, Gynt o Stretton, Sir Amwythig. Mab ieuengaf un Gryffydd Morris, gwr o deulu cyfrifol, yn Sir G-aernarfon, oedd y gwr da hwn ; ac un o'r Anghyd- ffurfwyr yn amser Siarls II. Fel llawer ereill, nid oedd ei febyd a'i ieuenctyd ef eithr cwbl wagedd. Cafudd ei ddwyn i fynu gyda golwg ar y weinidogaeth, yn Rhydychen ; a phan ddechreuodd bregethu, yr oedd ei boblogrwydd cym- maint ag i fod yn brofedigaeth iddo i ymfalchio, ac, yn ol ei dystiolaeth ei hun, i'w wneuthur yn ddyn coeg-falch, gwag-ogoneddgar. Cydfíurfiodd yn y flwyddyn hygof 1GG2, yn Brompfield, yn Swydd Hereford; eithr symudodd oddiyno wedi hyny i Stretton, yn Sir Amwythig ; lle yr oedd bywíoliaeth dda a phersondy "rhagorol. Meddian- nodd y rhai'n gyda thawelwch meddwl, nes iDduw ymweled â'r dref âthwymyn adwythig, trwy'r hon yr ysgubwyd llawer o'r trigolion i fyd tragy wyddol. Bu hyny yn foddion i ddihuno Mr. Morys i ystyriaeth ddifrifol o'i gyflwr ysbrydol, ac i beri iddo arswydo rhag cyfarfod ag angeu yn anmharod. Y pryd hwn, dechreuodd ei feddwl der- fysgu ynghylch Cydffurfiaeth; ac ni chafodd esmwythder na dydd na nos, nes iddo ddyfod i benderfyniad i roddi ei fywioliaeth, yr hon ydoedd yn werth saith ugain punt y flwyddyn, i fynu; er ei fod, y pryd hwnw, mewn dyíed o dri chant o bunnoedd, yr hon a dynasai, yn benaf, wrth adgyweirio'r persondy. Cadwodd yr achos o'i drallod iddo ei hun, nes i'w wraig, yr hon oedd yn casglu oddiwrth ei agwedd bruddaidd ei fod mewn gofid, i ddyfod un diwrnod yn ddisymmwth ato i'w ystafell, ac amlygu ei phenderfyniad i beidio a myned oddi- wrtho,hyd nes iddo fynegu iddi yr achos o'i anesmwythder. Mynegodd iddi, mewn canlyniad, nas gallasai efe aros yn dawel yn hwy yn weinidog Cyd- ffurfiol y plwyf hwnw ; a bod cynhal- iaeth ei deulu rhagllaw yn gofidio ei feddwl ef yn fawr. Dymunodd hithau arno, mewn canlyniad, i ymddwyn yn hollol yn ol goleuni ei gydwybod, gan sicrhau ar yr un pryd, y medrai hi ym- ddiried ei hun a'i phlentyn i ofal Rhag- luniaeth, heb unrhyw betrusder yn mherthynas i'r canlyniad. Rhoddodd yr ateb hwn o eiddo cymhares ei fywyd lawer o galondid a thawelwch i'wfed'd- wl; ac, mewn canlyniad iddo, amlyg- odd ddyryswch ei feddwl i Mr. Cwarel, un o'r ddwy fil wŷr eglwysig a drowyd o'u bywioliaethau yn achos Cyfraith Unffurfiaeth, yr hwn a'i cynghorodd, cyn penderfynuarg)-flwr dyoddefiadol, i'eistedd ynghyntaf i lawr a bwrw'r draul. Atebodd Mr. Morys, na oddefai cydwybod iddo gadw ei fywioliaeth yn hwy. Mewn canlyniad, traddododd bregeth ymadawol yn yx eglwys blwyf- ol, oddiwrth Luc 23. 3; a derbyniodd wysiad oddiwrth ganghellydd yr esgob- aeth yn ci hachos, yn cynnwys cyhudd- iad y'n ei erbyn am feio ar lywodraeth yr eglwys. Sicrhaodd iddo, mewn atebiad, nad oedd yr hyn a droddodwyd ganddo wedi ei fwriadu i aflonyddu na therfysgu neb, eithr yn unig i ostegu dolefàu cydwybod ddihunedig. Dan- gosodd Mr. Morys ei holl feddiannau i'w echwynwyr, a chafodd ei ymddifadu ganddynt o bob ceiniog-werth a feddai; a chafodd ei ddodi gan y cyfryw o hon- ynt ag na chawsant eu boddloni, yng- harchar y Sir, Ue y llonwyd efj yn 16