Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Clais Rbpddid. Gyf III.] [Rhif. 2 Y Parch. Noah Bevan. Wele ddarlun o'r gŵr hynaws ac ymroddgar hwn—y trydydd gweinidog a alwyd i fugeilio praidd yr Eglwys Rydd. Brodor o Ýstradyfodwg, sir Forganwg, yw, lle ganwyd ef yn ffermdy Ffynondwym ar yr 21ain o Ebrill, 1868. Gyda'r Methodistiaid y magwyd ei fam, ond Annibynwr oedd ei dad o'i febyd. a bu'n ddiacon am flynyddoedd yn eglwys luosog Ebenezer, Ton-y- pandy, ac yn yr eglwys hon y cafodd yntau ei dderbyn ac y dechreuodd bregethu ar anogaeth daer yr aelodau, ar ol bod yn gweithio yn y lofa am un mlynedd ar ddeg. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadegol Mr. Levi, Caerdydd ; ac yn Ngholeg Duwinyddol yr Annibynwyr, Bangor. Treuliodd y ddwy