Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddid. Cyf. III.] MEHEFIN 1904. [Hhif. 3 Y Parch. David Davies. Nid oes neb teilyngach o gael ei ddarlun ar y misolyn hwn na'r gŵr hardd a hynaws a enwir uchod ; ac wrth gyflwyno ei ddar- lun i'n darllenwyr, dyddorol fydd dyfynu y manylion a ganlyn am dano a ymddangosodd rai misoedd yn ol o ysgrifell " L " :— "Ganwyd a magwyd Mr. Davies mewn pentref bach dinod o'r enw Groes, ger Rhiwabon. Bendithiwyd ef â rhieni crefyddoì a duwiol; a phan yn llanc ieuanc o egwyddorwas gyda Mr. Ben- jamin Williams, Rhos, dechreuodd gymeryd rhan yn ngwaith eglwys M.C. Poncie, a bu yn ysgrifenydd yr Ysgol Sul yno. Pan yn bymtheg oed daeth i Lerpwl at Mr. Thomas Jones, a chydag ef y bu nes yr agorodd y Wellington Stores ei hun rai blynyddoedd yn ol, a chadwai y fasnach hon yn mlaen hyd yr