Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf III Clals RhodJid. AWST 1904. [Rhif. 5 Mr. William Roberts. Diau y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael darlun o Mr. William Roberts, ürwell Road—un o weithwyr gwerthfawrocaf yr Eglwys Rydd er y cychwyn, a llywydd y Pwyllgor Canolog am y flwyddyn hon. Ganwyd Mr. Roberts mewn amaethdy bychan o'r enw Tir Gwyn: yn mhlwyf Pistyll, Sir Gaernarfon. Saif Tir Gwyn ar wastatir ar lechwedd mynydd yr Eifl, yn ddigon uchel i weled dros y môr tua thir machlud haul, fryniau yr Iwerddon. Tua'r de gwelir ynys Enlli, a mynyddoedd Deheudir Cymru ; a thua'r dwyrain, Eifionydd, Cestyll henafol Criccieth aHarlech, a mynyddoedd Meirionydd. Tŷ ar ei ben ei hun ydyw Tir