Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Clais RDpadìd. Cyf. III] IONAWR, 1905. [Rhif 10 Addoldai Eglwys Rydd y Cymry. I—CAPEL GARMOYLE ROAD. Bydd yn dda gan ein darllenwyr, yn ddiau, gael darluniau o'n gwahanol addoldai, ac y mae'n bíeser genym ninau gyflwyno darlun rhagorol o gapel Garmoyle Road, yn gyntaf. Bwriadem ers tro gyhoeddi y darluniau, ond lluddiwyd ni hyd yma, gan amrywiol amgylchiadau. Bellach, cyhoeddwn hwy o fis i fis, yp v drefn yr adeiladwyd hwy, gan ddechreu y tro hwn gyda'r cyntaf. Tynwyd yr^holl ddarluniau gan y cynllunydd, Mr. T. Taliesin Rees," felly gellir dibynu eu bod yn rhai cywir o'r adeiladau.