Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ciaìs Rbpaaid. Cyf. V.] MAI, 1906. [Rhif 2. Pregeth Gan y Parch. W. 0. Jones. Yr Actau xxvi. 24, 28. " Ac fel yr oedd efe ya dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yu ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd. . . . Ac Agrippa a ddywed- odd wrth Paul, Yr wyt ti o fewu ychydig i'm hennill i fod yn Grristion." Oddi wrth yr adnodau hyn daw i'r golwg y dylanwad gwahanol a geir gan bregethiad yr efengyl ar wahanol feddyliau. Y mae Ffestus ac Agrippa yn engreifTtiau da o ddau ddosbarth o wrandawyr sydd i'w cael hyd y dydd hwn. I Ffestus y Rhufein- iwr yr oedd efengyl Crist yn ffblineb, ac yr oedd y pregethwr, fel y tybiai ef, wedi colli arno ei hunan. Ond i Agrippa yr Iddew yr oedd y bregeth yn rhesymol a gafaelgar, ac o fewn ychydig. meddai ef, i'w ennill i fod yn Gristion. Ar y pryd, yr oedd Paul y pregethwr yn garcharor dros ei Arglwydd, ac yn wr oddeutu trigain mlwydd oed. A gyrfa ddigyffelyb, onidê, ydoedd yr ugain neu y pum-mlynedd-ar- hugain diweddaf yn ei hanes. Erbyn hyn yr oedd wedi cyflawni y rhan fwyaf o waith ei weinidogaeth ; y tair taith genhadol wedi eu cwblhau, a'r prif Epistolau wedi eu hysgrifennu, a'u hanfon i'r eglwysi. Yr oedd wedi gweled, profi a dioddef llawer: gwyddai beth ydoedd gwaethaf gelyniaeth ac erledigaeth y byd hwn, a gwyddai hefyd beth ydoedd y nerth a'r diddanwch sydd i'w gael o gymundeb agos â'i Waredwr. Mae'n bosibl y bu fyw wedi hyn am wyth neu ddeng mlynedd o amser, ond blynydd- oedd o flinder ac adfyd oeddynt. Treuliodd y rhan fwyaf o honynt yn y carcharau, ac yn ol pob tebyg dibenodd ei yrfa mewn merthyrdod. Felly yr oedd y byd yn arfer trin gwir ífyddloniaid yr Arglwydd. A phan y gwelwn ef yn y fan yma,