Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Clais Rftpddìd. Gyf. V.] GORFFENNAF, 1906. [Rìdf 4. ' 'MÉáË ^ Jj pflöìÉi1' p^ Y Parch Edwyn Evans. Teimlwn yn sicr y bydd yn dda gan liaws darllenwyr Llais Rhyddid gael darlun ac ychydig o hanes y gwr ieuanc hynaws hwn, sydd wedi ei ordeinio, ers misoedd bellach, yn weinidog ar eglwys Garraoyle Road. Mae yr eglwysi oll erbyn hyn wedi cael mantais dda i adnabod Mr. Evans, ac wedi cael ei wasanaeth yn eu pulpudau ar y Sabothau, ac yr ydym heddyw mewn safle i roddi y dystiolaeth agored a chalonogol iddo, fod ei weinidogaeth yn dderbyniol iawn drwy y cyfundeb, a bod ei ysbryd addfwyn a diymhongar wedi ennill edmygedd cyffredinol cylch yr Eglwys Rydd. Ganwyd ein gwrthddrych yn Llwynhendy, ger Llanelly, Sir Gaerfyrddin ; a brodorion o'r un ardal ydyw ei rieni, Mr. a Mrs. Thomas Evans. Yr oedd ei daid, tad ei fam, yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy iawn gydag enwad parchus y Bedydd- wyr; ac mae arwr-bregethwr yr enwad hwnnw, sef y Parch. Charles Davies, Caerdydd, yn gefnder i'w fam, a hyderwn y