Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddid. Gyf V.] TACHWEDD, 1906. [Rhiý 8. Y Corsydd Cymdeithasol. |ftNystody ddeufis diweddaf gwnaed datguddiadau brawychus *•'•£ ar sefyllfa gymdeithasol rhannau eang o'n dinas. Yn ol tystiolaeth Dr. Hope, ein prif swyddog meddygol, yn ei adrodd- iad i'r Pwyllgor Iechydoí, y mae rhai parthau o Lerpwl yn bdyfnach mewn tlodi, trueni, ac aflendid, na'r un ddinas arall drwy wledydd Ewrop. Ar y cyntaf achosodd y dystiolaeth hon gryn lawer o gwestiyno ac ameu. Gwadai rhai ei gwirionedd, a thaerai ereill fod y meddyg yn gorliwio y ffeithiau. Ond po fwyaf yr ymchwiliadau a wneid, gwaethaf oll ydoedd yr olwg ar bethau. Ers oesau yn ol eniìíodd Llynlleifiad gymeriad tra anymunol o herwydd ei drygau. Gwarthnodwyd hi âg enw aníelus ddigon, sef yr ysmotyn du ar lan y Ferswy. Ond yr oeddis yn gobeithio, ers blynyddoedd bellach, ein bod ary ffordd i wisgo ymaith y drygair, ac i ennill hawddgarach enwogrwydd. Tybiem fod y rhan fwyaf o'r budreddi wedi ei garthu allan, ac y gallem bellach, heb ofn na chywilydd, sefyll cymhariaeth â dinasoedd ereill o boblogaeth gyffelyb. Yn sicr. nid ydym yn fyr o arweinwyr dinesig gwir alluog ac ymroddedig. Y mae gennym hefyd lu mawr o ddyngarwyr hael o galon a llawnion eu pocedau. Ac ewyllysgar yw y trethdalwyr i gyfrannu yn ol eu gallu tuag at symud ymaith ein gwaradwydd. Ac yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf gwariwyd symiau aruthrol ar y gwaith, fel y tybiem, o ddifodi y cyrtiau gwaethaf, ac o adeiladu yn eu lle drigfannau addas i fodau gwareiddiedig. Ac ar ol cymaint o draul a llafur, gobeithiem fod y ceubyllau heintus a drygsawrus wedi eu gwneud yn fannau cyfaneddol. Ond druain ohonom ! Yr ydym eto ar waelod y rhestr. Caercystenyn, meddir, prif ddinas y Twrc, a chartref oesol pob halogrwydd, ydyw yr unig ddinas yn Ewrop i gystadlu â Lerpwl amffieidd-dra a thrueni. Ynghanol ein tref y mae rhai darnau duon dybryd; pwy a ddichon ddychmygu eu gwaeth ? 0 ran y tai a'u preswylwyr, y maent yn afiach tu hwnt i bob disgrifiad, ac yn waradwydd i'r