Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rftpddìd. Cyf V.] IONAWR, 190$.7 [Rhiý 10. Pregeth öan y Parch. W. O. Jones, B.A. SIMON 0 CYRECSTE,. St. Mare xv. 21: " A hwy a gym!hellasant un Sirnon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned 'heábio, wrth ddyfod o'r wlad, sef, tad Alexander a Ruírus, i ddwyn ei groes Eíf." O'i anfcdd, os nad yn wir er ei waethaf, y gwnaed i'r Simon hwn gario croes yr lesu. Yn lle cymhellasant dylid darllen, " hwy a'i gorfodasant." Compelled a ddywedir yn Saesneg, a dyna yn ddiddadl ydyw ystyr y gair gwreaddiol. Gair ydoedd i ddechreu o> darddiad milwrol, ac yn •g'olygu pressio milwyr i'r fyddin. Gosodwyd rhaid ar Simon o> Cyrene, dirwasgwyd ef, gan y milwyr Rhufeinig, i gark> croes yr Iosu collfarnedig. Yehydig O' hanes y gwr hwn sydd ar gael. Un adnod fechan sydd gan Matthew, fiarc a Luc i'w ddweyd am dano, a dywedir hoimo gan y tri bron yn yr un geiriau. ]S"is gwyddom ddim am dano cyn y diwrnotí hwn, na dim i sicrwydd wedi hyn. Am un foment yn unig y saif yn y golwg, tra'n crymu ei war o dan bẁn y groes ; ac yna diflanna'n gwbl oddiar ddalennau hanes. Ond yr oedd y fbment honno yn foment fawr yn hanes ein byd. 'Pan yí oedd Oen Duw jtí y ddalfa, ac ar y ffordd i'r allor ar öalfaria. Weithiau, y mae ychydig fynydau o amser yn argyfwng an- rhaethol (bwysig. IJn diwrnod, ie, un awr, dawer gwaith cyn hyn, a benderfynodd dynged cenhedíoedd a theyrnasocdd cyf ain, ac a newidiodd 'gwrs hanes am ganrifoedd lawer. Am gyfnodau meithion, y mae amser fel pc'n beichiogi yn ddistaw a graddol, a neb yn sylwi fod dim neilltuol yn cymeryd lle. Ac yna yn ddisymwth, pan ddelo''r awr derfynedig, esgora ar rywbeth tebyg i greadigaeth newydd; ac ar adegau felly, y mae digwyddiadau un diwrnod yn gwneud argraiff ddyfnach ar y byd na chan' mlynedd o helyntion cyffredin. Y rhai hyn sydd yn torri ar