Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fclais Rhyddîd. Cyf. VI.] AWST, 1907. [Rhif 5. Y Diweddar Mr. W. A. Phillips. ER mor brudd y gorchwyl o gofnodi ymadawiad cyfaill hynaws a chydweithiwr pybyr, ac er trymed y galar a dyfned y loes, y mae cofio nad oes gennym ond y da i'w ddweyd am dano, yn ysgafnhau y baich, a llawen ydym i allu cyflwyno darlun| o hono, ynghydag ychydig fanylion o'i yrfa fer ar y ddaear. Ym marwolaeth Mr. Phillips, collodd yr Eglwys Rtdd un o'i chymeriad.au harddaf a mwyaf dymunol, a theimlir mai gwâg ydyw ei le yn ein plith. Ganwyd William Augustus Phillips ar yr wythfed o Fehefìn, 1871, yn Birkenhead, ac yr oedd yn drydydd mab i Mr. William a'r ddiweddar Mrs. Sarah Phillips, y rhai oeddynt yn aelodau ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfìnaidd yn Parkfield. Rhoddodd