Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddìd. Cyf IV] . TACHWEDD, 1905. [Rhif 8. Yr Addoliad Teuluaidd. Yn ein Seiat Undebol, yr hon a gynaliwyd Medi 28, yn nghapel Donaldson Street, dewiswyd y testyn uchod yn fater yr ymdrin- iaeth, a chafwyd sylwadau buddiol a gwerthfawr arno gan luaws o frodyr. Yn anífodus, llesteiriwyd cryn lawer ar lwyddiant y cyfarfod gan erwinder y tywydd ; teneu oedd y cyfarfod, a phrin y siaradwyr. Ond wrth wrando ar y drafodaeth, teimlai pawb fod y mater yn wir amserol, ac yn deilwng o bob ystyriaeth. Onid oes mawr angen traethu ychwaneg arno, a cheisio cyffroi meddyliau ein gilydd i fwy o ífyddlondeb a difrifwch gyda'r rhan hon o'n dyledswyddau crefyddol ? A chredwn hefyd fod y dydd- iau presenol yn amser nodedig o gyfaddas i alw sylw adnew- yddol ato, ac i gynghori, bawb eu gilydd, i ymlwybro yn hyn yma megis ag y gweddai i saint rodio. Yr ydym newydd basio drwy gyfnod o ddeffroad crefyddol, ac o adíÿwiad grymus ar waith yr Arglwydd. Breintiwyd ni fel cenedl, unwaith yn rhagor, âg ymweliadgraslawn oddiwrth " Ysbryd byw y deffroadau," nes gwneud Cymru fâd o benbwygilydd yn fôr o fawl a gweddi. A gobeithio hefyd nad ydyw y dylanwadau nefol am ein gadael, ond, yn hytrach, y cawn weled a phrofi pethau cryfach a mwy rhagorol yn ystod y gauaf presenol. Parhawn yn ddyfal a diwyd i ddisgwyl a gweddio am danynt. Eisoes, gwnaethant ddaioni na ddichon neb ei brisio. Dygwyd tô o ieuenctyd ein cenedl i deimlo nerthoedd y byd a ddaw ; deffrowyd hwynt, am y tro cyntaf, gan y sŵn o'r nefoedd, a chlywsant dyner lais y Ceidwad yn galw ar eu hol. Beth bynag a ddaw ohonynt eto, bydd i adgofion am gyfarfodydd y gauaf diweddaf ymdroi yn hir yn eu meddyliau, a gadael ar eu cydwybodau aml lygedyn lled- nais. Clwyfwyd, hefyd, a sobrwyd, am dymhor o leiaf, luaws mawr o annuwiolion rhyfygus y wlad a'r trefydd, a hyderwn fod llawer ohonynt wedi byth-adael byddin y gelyn ac ymrestru o hyn allan o dan faner y Brenin lesu. Y mae miloedd o wŷr a gwragedd, hen ac ieuanc, yn awr yn gweddio, yn y dirgel ac yn