Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Iriais Rhyddid. Cyf. VII.] MAI, 1908. [Rhif 2. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." Yr Iawn : Hanes yr Athrawiaeth. Sancteiddiolaf y Testament Newydd ydyw yr hanes am farwolaeth y groes, ac wrth ddynesu ato, ein lle ydyw diosg ein hesgidiau megis oddi am ein traed. Ac addefìr, gan agos bawb o'r diwinyddion, mai y marw hwnnw, o ran ei amcan a'i effeith- iau, ydyw y dyfnaf o holl ddirgelion ein tîydd. Pwy a ddichon ffurfio unrhyw ddirnadaeth resymol o berthynas iddo ? Pwy a ddywed, gyda dim tebyg i sicrwydd, paham yr oedd yn rliaid i Grist farw ? neu pa f odd y mae Ei angeu ar Galfaria yn foddion 0 gymod rhwng pechadur a Duw r Profa holl hanes yr Eglwys, o ddydd y Pentecost hyd heddyw, fod yr hanes am y groes yn medru'r ffordd i galon pechadur. Y mae'n effeithiol, mewn modd nas dichon diin arall, i argyhoeddi 0 bechod, i ddiffodd euogrwydd cydwybod, ac i greu rhyw dangnefedd hyfryd mewn eneidiau ar ddarfod am danynt. Er bellach yn hên, hên hanes, eto y mae byth yn newydd, ac yn deffro ocheneidiau a gobeithion anrhaethadwy mewn myrdd o galonau. Ond pa fodd yr ydym i esbonio ei ddylanwad ? Fel y dywedodd un, " The heart of Christendom has welcomed the doctrine, but the intellect has been baflied by it more than by any other truth of religion." Gwir a ddywedodd yr Apostol Paul am Efeugyl y Groes, " Gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un ar sydd yn credu." Ac mor wir a hynny yw rhan arall o'i ddysgeidiaeth, sef fod doethineb y byd hwn yn analluog i'w hamgyffred. Erys eto, fel yr oedd yn y dechreuad, yn ffolineb ac yn dramgwydd i'r neb a geisio resymoli ei dirgelion. Addeür yr anhawsterau gan bob diwinyddiaeth os yn werth yr enw. Gwelais un engraifft darawiadol mewn cyfrol ddiweddar o waith Dr. Warschauer, un o apostolion aiddgaraf a mwyaf dylanwadol y Ddiwinyddiaeth Newydd. Ar ol cloriannu a chael yn brin yr hên athrawiaethau ar y pwnc, â ymlaen fel y canlyn :