Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fclais Rhyddid. Cyí. VII.] HYDREF, 1908. [Rhiî 7. Jeremiah a'r Cyfamod Newydd. JEREMIAH oedd y cyntaf i ddeol yr unigolion oddi wrth y genedl, ac i bregethu crefydd bersonol. Pregethodd proffwydi ereill ar ysbrydolrwydd crefydd, ond yr oedd baich eu hapêl at y genedl fel cyfangorff, neu at niferoedd o honi. Ffurfiai llwythau'r genedl, yn fyw a marw, undod mawr, a cheir hyd yn oed Jeremiah, ar dro, yn llithro'n ol at hên syniadau, ac yn sôn am Rahel, mam rhai o'r llwythau, yn wylo am ei phlant pan âni i gaethiwed. Eithr nid mynych y ceir y proffwyd mawr yn byw ar syniadau oesoedd a fu. Efe yw dehonglwr arwyddion yr amseroedd. Efe yw pregethwr mwyaf yr Hên Destament ar ysbrydolrwydd gwasanaeth i Dduw. I ddeall ei ddysgeidiaeth ar y Cyfamod Newydd (xxxi. 31-34), rhaid bwrw golwg ar dri chyfnod yn hanes crefyddol y genedl : (i.) Y cyfnod cyn diwygiad Josiah—621 C.C. ; (ii.) Cyfnod y diwygiad ; a (iii.) Cyfnod y ddwy gaethglud, 597 C.C., a 586 C.C. I.—Y CYFNOD CYN DIWYGIAD JOSIAH. Edrydd y cofnodwyr am gyfamod a wnaed rhwng Jehofah â chenedl Israel yn Horeb. Yn ol y cyfamod hwn, y Duw a't gwaredodd o'r Aifft fyddai mwyach yn Dduw iddi, a hithau fyddai Ei genedl briodol Ef. Amodau'r cyfamod o du Dduw oedd y byddai Efe'n amddiffyn i Israel rhag ei gelynion, yn Flaenor ei chadau i ennill Canan, ac yn nerth a chadernid y gellid ymddiried ynddo hyd byth. 0 du Israel, yr oedd amodau allanol ac amodau mewnol. Enwaediad ac aberth oedd y ddau beth allanol a ofynnid. Insel y cyfamod oedd enwaediad, a thrwyddo dygid meibion y genedl i freintiau a chyfrifoldeb y llwythau. Y modd i gadw'r cyfamod yn ei rym oedd drwy aberthu. Perthynnai'r genedl mewn modd arbennig a llythrennol i'w Duw, a bwyteid yr aberthau, ar y cyntaf, ger bron Jehofah. Ei ran Ef o'r wledd gyffredin i Dduw a dynion, oedd y gwaed. Gwyliau llawen teuluoedd Canan oedd adegau aberthu.