Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Iflais Rbyddid. Cyî. VIII. TACHWEDD, 1909. [Rhiî 8. Y Parch. W. A. Robcrts. GANWYD y Parch. William Ambrose Roberts ym Mangor, ac yn y ddinas honno y treuliodd fiynyddoedd cyntaf ei fywyd. Arferai fyned, pan yn blentyn, i eglwys yr Anibynnwyr yn Hirael, lle 'roedd ei dad, yr hwn a fu farw ychydig flynyddoedd yn ol, yn aelod cyson, a lle yr erys ei fam yn aelod ffyddlon hyd neddyw. Ar un adeg o'i fywyd bwriadai Mr. Roberts fyned yn feddyg, a dechreuodd ymbaratoi ar gyfer yr alwedigaeth honno, a threuliodd rai blynyddoedd yn ei dref enedigol yng ngwasanaeth