Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Irlais Rbyddid* Cyî. VIII. IONAWH, 1910. [Rhiî 10 Prcgeth. [Gan y Parch. W. 0. Jones, B.A.] Hebreaid xii. 27.—" A'r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nid ysgydwir." " Yr Eto unwaith hynny." Enw ar un o addewidion Duw ydyw'r ymadrodd hwn. Ceir yr addewid yn yr adnod flaenorol : " Ac yn awr Efe a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd." Rhoddwyd yr addewid i ddechreu drwy'r proffwyd Hagai, ymhen oddeutu pym- theng mlynedd ar ol y dychweliad o Babylon. A'i hamcan yr adeg honno ydoedd calonogi'r bobl gyda'r gwaith o ail-adeiladu'r deml yn Jerusalem. Dechreuwyd ar y gwaith fwy nag unwaith, onJ dro ar ol tro methent ag ymwroli'n ddigonol. Yr oedd effeithiau'r caethiwed yn aros fel hunllef ar eu hysbryd. Nid gwaith hawdd ydyw codi cenedl ar ol ei darostwng i'r llwch. Fel rheol, cymer amser maith i ail-ddeffro ynddi ei gobeithion a'i hunan-hyder cenedlaethol. A hwn ydoedd cyflwr y genedl Iddewig yn nyddiau Hagai,—pobl oeddynt wedi eu llethu gan hir-gaethiwed, ac heb galon ynddynt i geisio ymysgwyd o'r llwch. Ac yr oedd yr holl amgylchiadau'n drymllyd a phruddaidd. Drwy oddefiad o du eu meistriaid y caniatawyd iddynt ddychwelyd i'w gwlad. Yr oedd mwyafrif o'r genedl eto ym Mabylon, miloedd yn ddiau wedi eu claddu yn y wlad bell, a miloedd ereill wedi dewis cartrefu yno, yn hytrach na dychwelyd i Ganan. Nifer cymharol fychan a gyr- haeddodd i Jerusalem, ac yr oedd y rhieni'n weiniaid a thlodion. Ac heblaw hynny, yr oedd golwg dorcalonus ar y ddinas,—y muriau, y pyrth, a'r tyrau'n adfeilion; y plasau ifori'n fyrddynod anghyfanedd, a'r deml ar fynydd Seion, cartref y gogoniant gynt.