Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ciaìs Rbpddìd. Cyf 1] MAWRTH, 1903. [Rhif. 12. Dysgyblaeth Egîwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. Y NEB a ddarlleno yr Efengylau yn ystyrbwyll nis gall lai na sylwi mai ychydig iawn a ddywedwyd gan yr Arglwydd Iesu ain Eglwys. 0 belled ag y croniclir ei ymddiddanion, dwy waith yn unig y defnyddiwyd y gair ganddo; sef, un diwrnod mewn atebiad i gyffes Petr, " Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi;" ac unwaith wrth y deuddeg tra yn argymhell arnynt y ddyledswydd o faddeu i'w gilydd, " Ac os efe ni wrendy arnynt hwy (sef dau neu dri o dystion) dywed i'r eglwys; ac os efe ni wrendy ar yr eglwys, bydded i ti megis yr ethnig a'r publican." Dyna'r unig engreifftiau 11 e gwneir cyfeiriad uniongyrchol ganddo Ef at eglwys fel y cyfryw, a chan yr Efengylydd Matthew yn unig y gwneir coffa am y rhai hyn. Ni ddywedwyd cymaint a brawddeg gan Grist íesu gyda golwg ar ei ffurf-lywodraeth neu natur ei chyfansoddiad; dim gair am delerau aelodaeth ohoni nac am y swyddau oedd i'w sefydlu ynddi. Gadawyd y cwestiynau hyn heb eu hateb, neu yn hytrach heb eu gofyn, hyd nes yr esgynodd Efe i'w ogoniant. Wedi hyny, fel y gwelir oddiwrth bennodau cyntaf llyfr yr Actau, y dechreuasant hawlio sylw a mynu ystyriaeth Anmhosibl, yn wir, ydyw dweyd pa bryd neu yn mha fodd y ffurfiwyd yr eglwys Gristionogol gyntaf; nid oes dim tebyg i seremoni agoriadol nac i gyfarfod sefydlu yn ei hanes. Yn hytrach tyfu a wnaeth, ac wrth dyfu, gwneud iddi ei hunan y corph oedd yn angenrheidiol. Llun- iwyd hi, nid yn ol cynllun wedi ei dynu allan yn mlaen llaw, nid yn ol rheolau wedi eu gosod arni o'r tu allan, ond yn ol anghenion y grym bywydol o'i mewn. Y dysgyblion eu hunain, ar ol eu bedyddio â'r Yspryd o'r uchelder, ymffurfiasant yn