Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddìd. Cyf II] GORPHENAF, 1903. [Rhif 16. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESÜ. Gyda St. Matthew xvi. 19, y gadawsom y mater yn ein hysgrif ddiweddaf. Wele yr adnod unwaith eto,—"A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd : a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a f'ydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd." Ceisiasom yn barod ddarlunio yr amgylchiadau pryd y llefarwyd y geiriau hyn, ac addawsom yn mhellach wneud ein goreu i egluro eu hystyr. Ac nid gorchwyl hawdd mohono. Beth a feddyliai yr Arglwydd Iesu wrth " agoriadau teyrnas nefoedd ?" A beth hefyd wrth " rwymo " a " rhyddhau " yn y nefoedd ac ar y ddaear ? Amrywiol ac amryfal odiaeth ydyw yr esboniadau a gynygiwyd erioed ar yr ymadroddion, gan bersonau unigol a chan gyfundebau crefyddol. Cydolygir gan bawb fod yr Arglwydd Iesu yn addaw drwyddynt ryw ymddiriedaeth fawr i Simon Petr; yn ol llawer o'r esbonwyr, yr oeddynt yn ei wisgo âg awdurdod a galluoedd ail i neb ond i eiddo Duw ei hunan. Ond beth yw y gynysgaeth mewn addewid, beth yw y nerth- oedd a'r hawliau a osodwyd arno ? Gynted ag y ceisiwn ffurfio dirnadaeth glir am danynt, neu ddarnodi mewn geiriau eraill gynwys yr ymadroddion, cyfyd i'r amlwg gwestiynau dyrys a chyfrin. Nis gallwn amcanu mewn ysgrif fel hon at gymaint a chrybwyll mo'u haner; llawer llai eu hateb gyda dim tebyg i drylwyredd. Rhaid i ni foddloni ar draethu yn unig, ac yu gynil, ar yr agweddau sydd yn ymddangos i ni yn perthyn yn agosaf i'r mater dan sylw. Ac i ddechreu, y mae yn amlwg fod yr adnod yn cael ei gwneud i fynu o ymadroddion ffigyrol. Ac nid hawdd yw pen- derfynu pa sawl ffigiwr sydd ynddi—un ai ynte dau. Mewn geiriau eraill, a ydym i ddeall mai gwaith yr agoriadau ydyw y