Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR mccie Golygydd Lleol—ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D. Erbyn hyn y mae tymor y gaeaf ar ben, a natur- iol ydyw i ni edrych yn ol i weled pa lwyddiant a fu ar y cyfarfodydd a gynîialiwyd ynddo. Bu gennym dri dosbarth darllen, a chredwn fod- gwaith da wedi ei wneud ynddynt. Fodd bynnag, o berthynas i'r dosbarthiadau o 16 i 21, a 21 î 24, rhaid. dweyd fod y presenol- deb yn anfoddhaol iawn. Mewn eglwys a«- ynddi'r fath nifer o bobl ieuainc, gallesid yn deg ddisgwyl gweled nifer lliosocach yn manteisio ar y dosbarthiadau hyn ; mewn gwirionedd, nid ydoedd y presenoldeb y degwm o'r hyn y dylai fod. Er hynny, bu rhai yn hynod o ffyddlon, a gwelwyd oddiwrth yr arholiadau a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'n eyfarfod cystadleuol na bu eu llafur yn y cyfeiriad hwn yn ofer. Yn awr, gadawn i ysgrifennydd fîyddlon y dosbarth darllen hynaf adrodd hanes y dosbarth hwn yn ei eiriau ei hun. Fel hyn y dywed :— Dechreuwyd y dosbarth am y tymor nos Lun, yr 8fed o Hydref, a therfynwyd ar nos Lun, y 25ain o Fawrth. Y inaes llafur ydoedd Epistol 1 Petr. Gyda ehryn bryder y.r oeddym oîì yn edrych ymlaen at ddechreu y gwaith eleni, oherwydd sefylifa iechyd ein hanwyî athraw ; ond ar ei gais arbennig ef, cyfarfyddodd y dosbarth am y misoedd cyntaf yn ei breswylfod, ac yr ydym oll yn llawenhau yn fawr ei f'od wedi ei alluogi yn ei iesgedd i gyfarfod y dosbarth bron yn ddifwlch o'r dechreu i'r cliwedd ; a'n gweddi a'n dymuniad yw y byddo iddo gaeì adferiad buan i'w gyflawn nerth ac iechyd. ISTifer yr eowau ar y llyfr ydoedd 31—llai o 24 na'r tymor blaenoroì. [Cawsom 22 o gyfar- fodydd, a chyfartaledd y prosenoldeb ycíoedd 16—íleihad o 7 o'i gymharu â'r llynedd. Y nifer fwyaf ar un noson ydoedd 26—sef y cyfar- fod cyntaf ; a'r nifer lleiaf ydoedd 11 ar y 7fed o Ionawr. Bu dau o'r aelodau, sef Mr. David Jones, Cremlyn, a Mr. John Wilìams, Wadham Road, yn br sennol ymhob cyfarfod, ac ni chollwyd ond un waith gan Mr. Joseph Lloyd, Bedford Road ; ac o'r gweddiìì bu— :> yn bresennoì 20 o weithiau. 3 18 3 17 i 16 ì ì 5 2 14 1 11 2 10 Ar ddechreu y tymor darllennwyd papurau rhagorol ar " Awduraeth yr Epistol " gan Mr. D.Roberts,Worcester Road,acar "Dystiolaethau y Tadau am Petr " gan Mr. W. Phylip Jones, ac " Hanes Petr y tu allan i'w Epistolau " gan Mr. Hugh Roberts ; ac hefyd yn y cyfarfod diweddaf cafwyd papnr gan Mr. W. Phyìip Jones ar ddioddefaint Crist yn ei agwedd iawnoL Gresyn fod can ìleied o aelodau yr Ysgol yn manteisio ar y cyfarfod gwir werthfawr hwn. Ai gormod fyddai disgwyl i bob athraw, ynghyda llawer ereill o aelodau yr ysgol, roddi eu presen- oldeb yncldo. Ofnwn fod rhai yn cadw draw gan ofn cael eu cornelu gyda chwestiynau caledion ac anhawdd. Gallwn sicrhau y cyfryw na fu erioed yn unman ddosbarth y gall pob aeiod ohono deimlo yn fwy cartrefol a rhydd oddiwrth pob ysbryd tarfu neb ; a gobeithiwn weled llawer mwy yn ymuno ar ddecìireu y tymor nesaf. Cyn ymwahanu, eynhygiodd Mr. Hugh Roberts bleidlais gynnes o ddiolchgarwch i Mr. Ellis am ei ffydcllondeb a'i lafur gyda'r dosbarth yn ystod y tymor, a hefyd ddatganiad o'u llawenydd o'i weled wedi cael gradd o adferiad iechyd ; a chefnogwyd yn wresog gan Mr. W. Phylip Jones, Mr. Lewis Roberts, a Mr. W. Rowìands. Taiwyd hefyd ddiolchgarwch y dosbarth i Mr. David Jones, Cremîyn, y sydd, ac a fycld am ei oes yn ail a,thraw. J. WILLIAMS. y mm OF HOFE Mawrth 26ain, cynhaliodd ein Band of Hope ei gyfarfod terfynnol, O flaen y cyfarfod rhodd- wyd te i'r plant gan Mrs. Morgan, E'im Bank. Afreidiol ydyw dweyd fod tyrfa fawr wed i dyfod ynghyd i fwynhau y wledd hon. Gwein- wyd ar y plant gan Mrs. Ellis, yn cael ei chyn- horthwyo gan nifer o chwiorydd ieuainc yr egìwys. Ar ol y te cafwyd cyfarfod amryw- iaethol gan y píant, dan ai-weiniad Mr. D. M. Roberts; a chyfeiliwyd gan Miss Aerona Griffiths Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. David Jones, Pembrohe' Road, yr hwn a draddododd anerch- iad lawn o gjmghorion buddiol i'r rhai ieuainc. Ar y llwyfan hefyd yr oedd y Parch. G. Ellis a Dr. Roberts. Gofalwyd am y Magic La,ntern gan Mr. T. H. Parry, a chynorthwywyd i baratoi y plant gan Miss Ada M. Roberts, gan yr hon hefyd y cafwyd adroddiad rhagorol yn