Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YmuoelyddMisol Golygydd Lleal-ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D. DARLUN. Yn yr Ymwelydd Misol am Mawrth, 1906' ymddanghosodd darlun da o'n hanwyl weinidog, y Parch. G. Ellis, M.A., ac ysgrif ddyddorol arno ; a thrwy garedigrwydd y Parch. Owen J. Owen, M.A., Rock Ferry, galluogir ni y mis hwn i gyflwyno'r darlun i'n darllennwyr. Gwyddom y bydd yn dderbynnioì iawn gan- ddynt. DYRGHAFIAD. Henadnr O. K. JONES, Y.H. Y mae llawer o siarad ac ysgrifennu ar yr hyn a wneir a'r hyn ni wneir gan y Llywodraeth hon, a dichon nad ydyw popeth a wna wrth fodd pawb ohonom. Fodd bynnag, ceir yn y newydd- iaduron gyfeiriad mynnych at un peth gwir angenrheidiol. Am cldeng mlynedd bu'r Llyw- odraeth Doriaidd yn pacJcio'r fainc ynadol â dynion—digon anghymwys lawer ohonynt— fel gwobr am ffyddlondeb i'r blaid ; ac yn awr gwelir yr Arglwydd Ganghellydd yn gwneud ychydig tuagat uniawnu'r cam, trwy benodi nifer liosog o ynadon newydd. Er pan ym- ddanghosodd yr Ymwelydd Misol diweddaf, y mae'r anrhydedd hon wedi syrthio i ran un o aelodau Stanley Road, sef yr Henadur O. K. Jones, Orrell, ac yr ydym o galon yn cyflwyno iddo ein Ilongyfarchiadau gwresocaf. Y bydd iddo gael hir oes i fwynhauyr anrhydedd,ac wrth weinyddu eyfìawnder gofio trugaredd, a hefyd arfer ei ddylanwad ar y fainc o blaid yr achos mawr dirwestol,ydyw dymuniad cywir Golygydd yr Ymwelydd Misol. CANU. Yn ei Essay on Man, sonia'r bardd Seisnig Pope am " the music of the spheres." Dysgai yr athronydd Pythagoras fod cylchdroadau y planedau yn cael eu düyn â miwsig, felly hefyd Plato ; a chyfaríyddwn â'r syniad yn aml mewn barddoniaeth Seisnig. Wele ddwy engraifft, y naill o Shakespeare, a'r llall o Miìton :— " There's not the smallest orb which thou behold'st But in his motion like an angel sings, Still quiring to the young-eyed cherubins ; Such harmony is in immortal souls ; But whilst this muddy vesture of decay Doth grossly close it in, we cannot hear it." Merchant of Venice. " Ring out, ye chrystal spheres ! Once bless our human ears, If ye have power to touch our senses so." (On the Morning of Chrisfs Natẁity). Dywed Milton y gellid clywed cerddoriaeth y bydoedd uwchben pe byddai ein calonnau yn ddigon pur, a'n meddyliau heb eu troi tua'r llawr. Awgryma Poj>e nad ydyw ein clustiau yn ddigon main i hyn, ac yn gyffelyb y dysgai Cicero. Yn ol Plato, y rheswm paham nas gallwn glywed cerddoriaeth y bydoedd ydyw am ei fod yn barhaol ; pe digwyddai torriad yn y canu, sylwem ar un- waith ar y gwahaniaeth. Ond beth bynnag am y canu uwchben, cawsom yn ddiweddar fwynhad dirfawr wrth wrando ar ganu o'n hamgylch, a llawenhaem wrth weled fod cymaint o'n haelodau yn meddu ar y dalent hon i raddau mor helaeth. Nos Fawrth, Ebrill 23ain, cynhaliodd côr Stanley Road ei ail gyngerdd. Daeth nifer dda ynghyd, a'r dystiolaeth gyffredinol ydoedd fod yr holl gantorion wedi gwneud eu gwaith yn rhagorol. Yn gyntaf, cafwyd perfformiad o'r gantawd gysegredig, " The Holy City." Dyma'r tro cyntaf i ni gael y fraint o'i chlywed, ac yr oedd yn swynol dros ben. Yna cafwyd ychydig sylwadau gan y cadeirydd, Mr. Walter E. Roberts—brawd sy'n gwybod beth ydyw eanu. Cymerwyd yr ail ran i fyny gan an- themau ac unawdau cysegredig. Datganwyd gan Miss Ada Morris, Miss Bessie Davies, a Mrs. J. E. Williams ; y Mri. Griff. Owen, Evan Evans, Jack Roberts, Jos. Jones, a'r brodyr Lewis. Cyfeiliwyd yn ddeheuig fel arfer gan Miss A. A. Roberts. Llongyfarchwn y eôr a'i arweinydd, Mr. D. M. Roberts, ar lwyddiant y cyngerdd. Cafodd pawb eu boddloni, a'u codi i ddisgwyl pethau mwy eto oddiwrth y côr hwn yn y dyfodol. Cyfiwynwyd diolchgar- wch brwdfrydig i'r cyfeillion am eu gwasan-