Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR Ymtaelydd ]V[isol Golygydd Lleol— Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hanes dechreuad yr achos yn Stanley Road. Gan Mr. THOMAS PARRY. David Jones. Gyda Daniel Edwards, mi gredaf, y lletyai David Jones. Daeth yma y tro cyntaf yn 1850, ac arhosodd gyda'r achos hyd ddiwedd y fiwyddyn honno. Yn y Dock Board y gweithiai, ond ar ddiwedd y fiwyddyn ymadawodd i'r dref, er mwyn cael tymor yn yr ysgol, a bu yn y Liverpool Institute am tua thri mis, yn ystod pa adeg yr ymaelododd â'r eglwys ym Mulberry St— yr wyf yn meddwl—a dychwelodd yma yn gynnar yn 1851, ac yn Bootle y bu o hynny hyd ei farwolaeth yn 1898. Fel Pencantwr— Ymddengys iddo fod yn tueddu at fod yn flaenllaw gyda'r achos, oherwydd clywais fy mam yn adrodd profîwydoliaeth o eiddo Daniel Edwards, " y byddai David Jones, os na edrychid ar ei ol, yn mynd yn ben ar yr achos." Felly yr oedd ei ddyrchafìad i fod yn ben-cantwr yn gam i'r iawn gyfeiriad, ac ymgymerodd yn galonnog â'r gwaith, at ba un nid oedd ganddo ond ychydig iawn o gymhwysterau. Yr oedd ganddo lais gweddol dda, mae'n wir, ac ychydig o donau yn ei gôf, ond dim gwerth o ddewis ; byddai felly yn digwydd yn aml, os byddai i emynau o'r un mesur gael eu ledio fwy nag unwaith yn yr un oedfa, fod i'r dôn gael ei chanu yn ol yr angen. Heblaw hyn, yr oedd David Jones yn ansicr o'r cyweirnod, ac yn aml yn methu cael tôn i ffitio'r geiriau a roddid allan. Byddem ni, y plant, yn aml yn cael hwyl wrth ei wylied gyda hyn, yn " pitchioW lcey." Chwibannai y dôn drosodd, a throai ei lygaid i fyny, yna yn mwmian canu, a'r key yn rhy uchel neu yn rhy isel ; ac weithiau, a hynny heb fod yn anaml, yn codi a mynd at y pregethwr neu arall a fyddai yn ledio y pennill, a dweyd wrtho, " A wnewch chwi roi un arall allan, os gwelwch yn dda, 'does gynon ni ddim tune ar hona," a byddai raid cael un arall nes cael pethau i fynd. Ond er y cwbl, mynd y byddent, ac ymlaen yr aeth y gwaith, ac ymlaen yr aeth David Jones hefyd, er ei holl anfanteision, a'i holl ddiffygion, gan gymeryd pob cyfle i'w gymhwyso ei hun i gyflawni gwaith pwysicach pa bryd bynnag y deuai y galwad arno. Ei ymddanghosiad allanol— Feallai mai dyma y lle goreu i ddisgrifìo Mr. Jones fel yr ymddanghosai i ni y plant yn yr adeg yma. Md wyf yn ameu ei fod yn ymddang- os yr un fath—i fesur—i'r oedolion hefyd, oher- wydd nid ydoedd yn hynod o boblogaidd yr adeg yrna ; ac felly, mae'n bosibl ein bod ni y plant yn adlewyrchu syniadau y bobl mewn oed am dano. Dyn lled dal ydoedd, teneu, esgyrnog, pryd tywyll, golwg sad difrifol, os nad sarug, arno, dim tynerwch ynddo, byth un amser yn siriol gyda ni y plant—(a theimlem nad oedd na phryd na thegwch ynddo)—ond yn gwgu arnom bob amser. Cofier mai nid henlancyddiaeth oedd y rheswm am hyn—nid oedd ond dyn ieuanc yr amser hynnw. Rhaid yw felly mai dyna oedd o ran ei natur—nid oedd gras wedi cael amser i wneud gwaith arno eto. Mor wahanol oedd y David Jones a adwaenid yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes—wedi i grefydd Iesu Grist wneud cymaint o waith prydferthu arno, pan yr ystyrid ef ynuno'r rhai hynny oeddynt wedi eu " prydferthu âg iach- awdwriaeth." (/ barhau). tt tt tt tt tt tt tt tt tt tt rt ti Blaenoriaid yr Eglwys am ddeugain mlynedd. [Gan y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A.]. Bu yn yr eglwys saith dewisiad, fel y canlyn :— Bhagfyr, 1867 :— Mr. Daniel P. Davies (a ymadwodd yn 1878). Mr. David Jones (a fu farw yn 1898). Mr. David Lloyd (a fu farw yn 1887). Mr. William Parry (a ymadawodd yn 1878). Mr. Owen Williams (ni dderbyniodd y swydd y tro hwnnw). Taehwedd, 1877 :— Mr. William Jones (a ymadawodd yn 1901). Mr. Thomas Williams (a ymadawodd yn 1879). Mr. Owen Williams (a ymadawodd yn 1889). Mai, 1879 :— Mr. William Jones (yn awr o David Street). Mr. William Jones, (a ymddiswyddodd yn 1886). Mr. Edward Owen. Chwefror, 1887 :— Mr. Elias Morris. Mr. Thomas Parry. Mr. Edward Roberts (a fu farw yn 1904). Mr. William Thomas (yn awr o Chatham St.). Ebrill, 1896 :— Mr. David Jones. Mr.Rowland J.Williams (aymadawoddyn 1901)